Gadael gofal
Mae’r Tîm 16+ yn helpu pobl ifanc 16 - 21 oed (neu 24 os mewn addysg llawn amser) sydd wedi bod mewn gofal i symud ymlaen a byw bywyd annibynnol a llwyddiannus.
Gall gadael gofal fod yn un o’r cyfnodau anoddaf ym mywyd person ifanc. Felly mae'n hanfodol eu bod yn cael eu paratoi’n drylwyr a’u cefnogi.
Mae gwaith y Tîm 16+ wedi'i seilio ar Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000. Gall y Tîm:
- baratoi pobl ifanc ar gyfer gadael gofal, a'u cefnogi unwaith y byddant yn byw’n annibynnol
- helpu'n ymarferol a rhoi cyngor ar anghenion llety, arian, addysg, hyfforddiant a gwaith
- delio â cheisiadau am wasanaeth a chyfarfod â phobl ifanc fel bo’r angen
- cefnogi pobl ifanc mewn cyfarfodydd
- helpu pobl ifanc 16 a 17 oed sy'n ddigartref.
Mae’r Tîm yn gweithio gyda gofalwyr, asiantaethau tai a iechyd, a phobl broffesiynol eraill. Rydym yn gwrando ar ddymuniadau pobl ifanc ac yn seilio'r gefnogaeth ar yr hyn maen nhw ei eisiau.
Cysylltu â ni