Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gwasanaeth gwybodeth i deuluoedd
      

 

LogoFacebook48   LogoInstagram48   LogoTwitter48

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn wasanaeth statudol sy’n cynnig cyngor a chymorth am ddim i BOB teulu pan maent eu hangen fwyaf. Rydym yn fan cyswllt cyntaf i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n chwilio am wybodaeth am gefnogaeth i deuluoedd.

Gallwn helpu gyda:

  • Cyngor a chefnogaeth ar faterion ariannol
  • Ymddygiad heriol
  • Gofal Plant a help i dalu am ofal plant
  • Cefnogaeth i rieni a gofalwyr
  • Gweithgareddau a digwyddiadau
  • Cefnogaeth ar gyfer dychwelyd i waith ac addysg
  • Gwasanaeth cefnogol i deuluoedd

Ceir wybodaeth am yr uchod a llawer mwy ar dudalen Hwb Teuluoedd Gwynedd ar wefan Cyngor Gwynedd. Ac am restr o ofalwyr plant a chlybiau gwyliau ymwelwch â ein gwefan.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol i deuluoedd yn ddyddiol ar ein cyfryngau cymdeithasol ac ein newyddlen yn fisol. Mae hefyd bosib tanysgrifio i’w dderbyn yn uniongyrchol i’ch e-bost.

Rydym yn hapus i ymweld ag unrhyw grwpiau/gweithgareddau/lleoliadau sydd yn chwilio am wybodaeth i gefnogi teuluoedd.

Cysylltwch â ni am wybodaeth pellach –

Newyddlen

Gweld newyddlen Gwybodaeth i Deuluoedd