Gwynedd Oed Gyfeillgar
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio i fod yn awdurdod lleol oed gyfeillgar erbyn 2025, mae hyn yn cyd-fynd a’r gwaith cenedlaethol gan Llywodraeth Cymru a Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Mae’r agenda yma yn cyd-fynd gyda gwaith Sefydliad Iechyd y Byd. Dysgu mwy am waith Sefydliad Iechyd y Byd
Mae cais Gwynedd wedi’i gyflwyno a bydd modd ei ddarllen o’r dudalen yma yn fuan iawn.
O fewn Cyngor Gwynedd mae dau rôl benodol sy’n cefnogi’r gwaith a gallwch gysylltu â hwy am fwy o wybodaeth:
Prosiectau ar y gweill yng Ngwynedd:
Pontio’r Cenedlaethau
Mae cynllun pontio’r cenedlaethau yn gweithio'n hynod o galed ar amryw o brosiectau sy'n dod â phobl o bob oed at ei gilydd:
Gwylio fideo i ddysgu mwy am y cynllun Pontio'r Cenedlaethau
Mae Cyngor Gwynedd yn bartneriaid yn yr wythnos Ryngwladol sy'n dathlu pontio’r cenedlaethau ym mis Ebrill 2024. Dysgu mwy am y gwaith a’r dathliadau rhyngwladol
Cefnogaeth a chyngor i baratoi am y gaeaf
Llawlyfr Paratoi am y Gaeaf - cyngor a gwybodaeth i bobl hŷn
Sgyrsiau oed-gyfeillgar
Mae clywed lleisiau pobl hŷn yn holl bwysig i’r maes gwaith ac felly os ydych eisiau gwahodd Swyddog Oed-Gyfeillgar y Cyngor draw i ddigwyddiad neu i’ch cymuned yna cysylltwch â ni i drefnu amser cyfleus.