Mewn argyfwng byddwn bob amser yn gweithredu neu'n sicrhau y bydd gwasanaeth arall ar gael i roi cymorth brys (os bydd argyfwng yn codi y tu allan i'r oriau gwaith arferol, ffoniwch 01248 353 551).
Trwy ofyn i ni am help, bydd rhaid i ni wneud asesiad i weld beth yw eich anghenion a pha help y gallwn ei gynnig.
Pan fyddwn wedi dod i'ch adnabod chi a'ch amgylchiadau (trwy'r asesiad) byddwn yn ystyried:
- a ydych yn gallu gwneud penderfyniadau a dewisiadau
- a oes angen eich diogelu rhag eich hunain neu eraill
- a ydych yn gallu dod i ben a gwneud pethau bob dydd; a ydych yn gallu gofalu am eich hunain (golchi, coginio, bwyta, mynd o gwmpas ac ati) a rheoli'r cartref.
- a ydych chi angen help i fwynhau bywyd cymdeithasol, teuluol a chymunedol.
Bydd rhaid penderfynu wedyn beth fyddai'r perygl i chi os na fydd help ar gael, a bydd lefel y cymorth yn dibynnu ar lefel y risg. Efallai bod hyn yn swnio'n glinigol ond mae'n rhaid i ni ddilyn y rheolau a sicrhau bod pawb yn cael tegwch.
Mewn geiriau eraill, byddwn yn pryderu os:
- nad ydych yn gallu gwneud pethau bob dydd i'ch cadw chi'n annibynnol.
- rydych yn ei chael hi'n anodd ymdopi. e.e. rydych chi (neu ofalwr) mewn perygl o gael anaf neu mae perygl y bydd y trefniadau presennol ar yr aelwyd yn chwalu.
- rydych wedi cael eich cam-drin neu esgeuluso neu mae perygl o hynny.
- mae eich bywyd mewn perygl mewn rhyw ffordd.
Bydd pwy bynnag sy'n gwneud eich asesiad yn penderfynu os ydych chi'n gallu cael help ac yn esbonio'u penderfyniad i chi. Os ydych chi'n gymwys, fe wnawn drefnu help i chi.