Help i dalu am ofal plant
Mae'n bosib y gallwch gael help i dalu am ofal plant os ydych yn defnyddio darpariaeth gofal plant sydd wedi cofrestru, er enghraifft
- gwarchodwr plant, meithrinfa, cylchoedd meithrin, cynllun chwarae neu glwb
- gwarchodwr plant gydag asiantaeth gwarchod plant gofrestredig neu asiantaeth gofal plant
Gallwch hefyd ystyried:
- Credyd Treth Plant: Help i deuluoedd sy’n gweithio ac sydd ar incwm isel.
- Credyd Treth Gwaith: Help i deuluoedd sy’n gweithio ac sydd ar incwm isel.
- Credyd Cynhwysol: Efallai y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
- Cyllid Myfyrwyr Cymru: Mae’n bosib y gall myfyrwyr mewn addysg uwch sy’n gymwys hawlio cymhorthdal gofal plant yn ddibynnol ar y cwrs maen’t yn ei wneud.
Mae hefyd yn bosib y gall myfyrwyr mewn addysg bellach yng Nghymru hawlio cymorth gyda chostau gofal plant gan y Gronfa Wrth Gefn Ariannol. Gofynnwch am wybodaeth yn swyddfa cymorth i fyfyrwyr eich coleg.
- Credydau Yswiriant Cenedlaethol: Os ydych yn daid neu’n nain neu aelod arall o’r teulu yn gofalu am blentyn o dan 12 oed, fel arfer tra bo’r rhiant neu’r prif ofalwr yn gweithio.
- Talebau Gofal Plant: Os gwnaethoch ymuno ag un o’r cynlluniau hyn ar 4 Hydref 2018 neu cyn hynny, efallai y byddwch yn gallu parhau i gael talebau neu ofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol.
Am gyngor pellach cysylltwch a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: