Telerau ac Amodau Teleofal

  • Mae'r Offer Teleofal yn parhau i fod yn eiddo i’r Cyngor trwy gydol y Cyfnod ac y bydd yn cael ei ddychwelyd heb ddifrod.
  • Ni chaiff y Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr werthu, codi tâl na gwneud i ffwrdd â’r offer ac eithrio pan yn ei ddychwelyd i’r Cyngor.
  • Mae’r Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr wedi cytuno i gael Offer Teleofal. Yn gyffredinol, bwriad yr Offer Teleofal yw cefnogi’r unigolyn reoli risgiau a parhau i fyw mor annibynnol a phosib. Ni all y Cyngor na’r Gosodwyr gymryd cyfrifoldeb os nad yw’r Offer Teleofal yn llwyddo i wneud hynny am pa bynnag reswm.
  • Cyfrifoldeb y Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr yw gwirio, profi, a sicrhau bod yr Offer Teleofal yn llawn weithredol.
  • Gofynnwn bod y Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr yn profi’r Offer Teleofal o leiaf unwaith y mis.
  • Ni fydd y Cyngor na’r Gosodwyr yn atebol am unrhyw fethiant yn yr Offer Teleofal. Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw fethiant gydag unrhyw ‘sensor’ sy’n gysylltiedig a’r Offer Teleofal, mae hyn wedi ei egluro i’r Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr cyn darparu’r Offer Teleofal.
  • Mae’r Cyngor, y Gosodwyr, neu gynrychiolwyr y Cyngor neu’r Gosodwyr wedi egluro sut mae’r Offer Teleofal yn gweithio ac mae’r Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr yn cytuno i ddefnyddio’r Offer Teleofal yn unol a’r eglurhad a’r cyngor hynny.
  • Tra byddwch yn defnyddio’r offer yma gall y Cyngor fod yn rhannu eich gwybodaeth a gwybodaeth am eich ymatebwyr gyda Galw Gofal (canolfan fonitro sy’n berthyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy).
  • Os nad yw’r Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr yn hapus bod yr Offer Teleofal wedi’i osod yn gywir, bydd yn cysylltu ar unwaith â 0333 123 6688.
  • Os yw’r Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr yn dymuno terfynu defnydd o’r Offer Teleofal, yna bydd rhaid i’r Defnyddiwr / Cynrychiolydd gysylltu â 01286 682842.
  • Os yw pecyn teleofal y Defnyddiwr yn cynnwys gwasanaeth monitro galwadau 24/7, yna mae’r Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr yn cytuno i dalu’r gost o £5.55 yr wythnos am y gwasanaeth. Bydd y Cyngor yn cadw’r hawl i adolygu y ffi yn flynyddol yn unol gyda adolygiad ffioedd gofal. Mae’r Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr yn cydnabod y gall cost wythnosol teleofal gynyddu yn dilyn adolygiad blynyddol. Bydd y Cyngor yn rhoi mis o rybudd i Ddefnyddwyr os yn bwriadu adolygu’r ffi wythnosol ar gychwyn blwyddyn ariannol newydd.
  • Yn ogystal, mae gan y Cyngor hawl i godi tâl rhesymol ar y Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr am gost yr Offer Teleofal os:
    • na chaiff yr Offer Teleofal ei ddychwelyd ar ddiwedd y Cyfnod;
    • na ellir casglu’r Offer Teleofal oherwydd nad yw’r Cyngor (neu gynrychiolydd) yn cael mynediad i’r cyfeiriad nodir uchod; neu
    • os ydy’r Offer Teleofal wedi ei ddifrodi.
  • Mae gan y Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr 14 diwrnod o’r Dyddiad Gosod i ystyried y cytundeb a’r telerau uchod. Mae gan y Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr hawl i dynnu yn ôl o’r cytundeb hon o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad gosod heb wynebu unrhyw gost. Gellir ganslo drwy gysylltu â ni ar 01286 682842.
  • Ar ôl 14 diwrnod, bydd y Gytundeb hon yn sefyll rhwng y Cyngor a Defnyddiwr / Cynrychiolydd y Defnyddiwr a bydd y Partïon ynghlwm a’u thelerau.