Cartrefi modur (motor homes) / Arosfan
Parcio cartrefi modur yn ystod y dydd
Gall cartrefi modur barcio yn unrhyw un o feysydd parcio Cyngor Gwynedd yn ystod y dydd.
Ond nodwch bod rhwystrau uchder yn y meysydd parcio canlynol sy'n golygu na fydd mynediad i gartrefi modur mawr.
- Llyn Bach Porthmadog
- Stryd Lombard, Porthmadog
- Morannedd, Cricieth
- Ffordd Caerdydd, Pwllheli
- Pen y Gogledd, Abermaw
- Colwyn Banc, Beddgelert
Os nad ydi’r cerbyd yn ffitio’n daclus oddi fewn i’r marciau, rhaid talu am ddau lecyn parcio
Parcio cartrefi modur dros nos - Arosfan
Mae'r Cyngor yn datblygu 4 safle penodol ar gyfer cartrefi modur i aros dros-nos. Mae'r safleoedd canlynol bellach ar gael i'w defnyddio:
- Maes parcio’r Maes, Criccieth (LL52 0BT);
- Y Glyn, Llanberis (LL55 4TY);
- Cei’r Gogledd, Pwllheli (LL53 5YR);
Bydd y safle isod yn agor yn fuan yn:
- Maes parcio Doc Fictoria (hen safle Shell), Caernarfon (LL55 1SQ).
Mae’r safleoedd Arosfan (tebyg i safleoedd Aires ar y cyfandir) wedi eu lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol.
Pris
£16.50 am un noson (4pm tan 10am y bore canlynol).
Talwch yn y peiriant talu ac arddangos agosaf neu drwy’r Ap Paybyphone neu YourParkingSpace ar gyfer Arosfan Y Glyn, Llanberis.
(noder fod ffi gwasanaeth bychan am dalu drwy’r ap)
Uchafswm o 2 noson dilynol yn unig. Ni chaniateir dychwelyd o fewn 7 diwrnod.
Mae’r safleoedd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer dŵr ffres, dŵr gwastraff cemegol, ailgylchu a sbwriel cyffredinol (manylion isod).
Cwestiynau a ofynnir yn aml
Dim ond cartrefi modur hunangynhwysol gyda chyfleusterau toiled ar y cerbyd sy'n cael parcio dros nos ar y safle Arosfan.
Rhaid fod gennych gyfleusterau dŵr a gwastraff ar y cartref modur (h.y. dim cynwysyddion allanol) i ddefnyddio’r safle Arosfan.
Ni chaniateir cysgu mewn unrhyw fath o gerbyd yn unman arall yn y maes parcio nac yn unrhyw faes parcio sydd ddim yn rhan o gynllun Arosfan.
Na, os byddwch yn gadael eich bae yn yr Arosfan, bydd yn cael ei ystyried yn wag ac yn agored i ddefnyddwyr eraill. Ni chaniateir cadw baeau gwag yn yr amgylchiadau yma.
Ni chaniateir trosglwyddo’r tocynnau ar gyfer y safle Arosfan. Gall arddangos tocyn ac arddangos a/neu a ddefnyddio tocyn ar gerbyd arall arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig.
Na, mae’r baeau ar sail cyntaf i’r felin. Nid oes modd archebu neu gadw lle o flaen llaw.
Na, mae’r ffioedd Arosfan yn gyson i bob defnyddiwr, ac nid oes consesiwn i ddalwyr bathodynnau glas sy’n awyddus defnyddio'r darpariaeth Arosfan.
Gofynnir i chi barcio yng nghanol y man parcio dynodedig. Bydd hynny yn sicrhau fod o leiaf 6 metr rhwng y cerbydau cartref modur.
Dim ond yn y baeau Arosfan y caniateir cysgu dros nos. Gall parcio mewn lleoliad arall ar y safle, methu â pharcio yn y bae penodedig neu achosi rhwystrau arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig.
Mae'r ffi £16:50 am y cyfnod o 16:00 hyd at 10:00 y bore dilynol yn unig. Os yn parcio yn y baeau yn ystod y dydd (10:00 hyd at 16:00), yna byddai angen talu'r ffioedd parcio arferol fel nodir ar yr arwyddion yn y maes parcio.
Sicrhewch eich bod yn gwagio gwastraff llwyd a gwastraff cemegol gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau ar y safle.
Peidiwch â gadael llanast ar eich hôl. Defnyddiwch y cyfleusterau ailgylchu a gwastraff a ddarperir. Peidiwch â gadael bagiau o wastraff ar y safle os ydi’r biniau yn llawn.
Oes, gallwch gael mynediad at ddŵr ffres o’r Pwynt Gwasanaethu – gwelwch manylion ar y safle. Cofiwch sicrhau eich bod wedi cysylltu eich pibell ddŵr i'r tap cyn gweithredu.
Gan fod cartrefi modur yn hunangynhwysol, nid bwriad y safleoedd Arosfan ydi cynnig safle gwersylla.
Felly ni fydd modd cynnal barbeciw na choginio y tu allan i'r cerbyd.
Byddwch yn barchus o'r trigolion a'r amgylchedd cyfagos. Dylid cadw cŵn ar dennyn a rhaid cadw anifeiliaid anwes eraill dan reolaeth briodol bob amser.
Gan fod cartrefi modur yn hunangynhwysol, nid bwriad y safleoedd Arosfan ydi cynnig safle gwersylla. Cofiwch fod yna nifer o safleoedd gwersyllfa preifat yng Ngwynedd lle mae modd aros mewn cartref modur.
Nid oes hawl gosod byrddau, cadeiriau, na lolfeydd haul y tu allan i'r cerbyd. Peidiwch â gosod adlenni neu ganopïau atal gwynt a ni ddylech osod lein ddillad.
Gofynnir i chi gadw’r sŵn i'r lleiafswm posib - dim radios, cerddoriaeth ac ati.
Mae hawl i osod gris ar gyfer mynediad i'r cerbyd, a chaniateir rampiau lefelu os gallwch yrru ymlaen ac oddi ar y rampiau.
Gall cartrefi modur barcio yn unrhyw un o feysydd parcio Cyngor Gwynedd, ond ni chaniateir cysgu dros nos yn unrhyw faes parcio, heblaw y safleoedd penodol Arosfan.
Adroddwch am unrhyw bryder fod rheolau safle Arosfan yn cael ei dorri drwy ffonio 01766 771000 (Llun – Gwener).
I roi gwybod am bryder am gŵyn parcio cartrefi modur cyffredinol yng Ngwynedd, gallwch adrodd ar hynny yma Ymholiad / Cwyn Parcio a Cartrefi Modur
Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid drwy raglen Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru i dreialu’r lleoliadau Arosfan.
Parcio dros nos ar ochr y ffordd / tir preifat
Nid yw gwersylla dros nos yn cael ei annog ar unrhyw ran o’r briffordd, gan gynnwys baeau ar ochr y ffordd (lay-bys) nac ar dir preifat (oni bai eich bod wedi derbyn caniatâd gan berchennog y tir).
Ymholiad / cwyn parcio cartrefi modur yng Ngwynedd
Ap Parcio! Mae'n bosib talu am barcio drwy ddefnyddio ap PayByPhone neu efo arian parod yn holl feysydd parcio Cyngor Gwynedd.
Ar gael i'w lawrlwytho o'r App Store neu Google Play Store.
Mwy o wybodaeth
Close