Pwyntiau gwefru ceir trydan
Mae’r Cyngor yn datblygu rhwydwaith o dros gant o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar draws Gwynedd.
Mae mannau gwefru yn weithredol yn y lleoliadau canlynol (trwy ddefnydd ap yn unig ar hyn o bryd):
- Intec ar Barc Menai, Bangor, LL57 4FG (4 peiriant 7kW)
- Canolfan Byw’n Iach Penllyn, Y Bala, LL23 7YE (4 peiriant 7kW)
- Canolfan Byw’n Iach Glan Wnion, Dolgellau, LL40 1LH (4 peiriant 7kW)
- Canolfan Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli, LL53 5PF (4 peiriant 7kW)
- Maes Parcio Bron y Graig Uchaf, Harlech, LL46 2SR (4 peiriant 7kW)
- Maes Parcio Penmount, Pwllheli, LL53 5HU (4 peiriant 7kW)
- Canolfan Byw’n Iach, Caernarfon, LL55 1DU (2 beiriant 7kW; 1 peiriant 22kW; 1 peiriant 50kW)
- Canolfan Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda, LL57 3DT ( 1 Peiriant 22kW, 1 Peiriant 50kW)
- Prif Faes Parcio, Aberdyfi, LL35 0EE (4 peiriant 7kW)
- Canolfan Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn, LL36 9AE (4 peiriant 7kW)
Yn ogystal, mae pwyntiau gwefru hefyd yn weithredol trwy gydweithrediad gyda Thrafnidiaeth Cymru ar safleoedd y Cyngor ym:
- Maes Parcio’r Grîn, Y Bala, LL23 7NG (1 peiriant, 22kW; 1 peiriant 50kW);
- Maes Parcio ger Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog, LL49 9NU (2 beiriant 22kW, 2 beiriant 50kW);
- Maes Parcio Diffwys, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES (2 beiriant 22kW, 2 beiriant 50kW);
- Maes Parcio’r Marian, Dolgellau, LL40 1DL (2 beiriant 22kW, 2 beiriant 50kW).
Mae gwaith hefyd yn digwydd i osod rhagor o fannau gwefru mewn lleoliadau yn ardaloedd Abermaw, Bangor, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Dolgellau, Llanberis, Penygroes, a Phwllheli dros y misoedd nesaf.
Mae yna amrywiaeth o fathau pwyntiau gwefru yn cael eu darparu – 7kW (4awr*), 22kW (2 - 3awr*), 50kW (40 munud*), 150kW (15 munud*). Mae manylion am leoliadau pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Ngwynedd a phrisiau defnyddio’r peiriannau ar gael ar wefan ZapMap (gwefan allanol)
*Amcan amser gwefru i deithio 100 milltir
Cyfarwyddiadau Gwefru Cyhoeddus
- Cofrestrwch ar yr ap Evolt ac ychwanegwch eich manylion talu o flaen llaw - mae’n haws paratoi hwn ymlaen llaw a dim ond unwaith y mae angen ei wneud.
- Ar ôl parcio, trowch y car i ffwrdd ac agorwch yr caead gwefru. Plygiwch eich cebl yn y car.
- Agorwch yr ap Evolt Network.
- Ewch i'r map a chliciwch y Lleoliad Chwilio neu CPID a byddwch yn cael yr opsiwn i ychwanegu cod post neu rif ID gwefrydd - bydd gan y gwefrydd o’ch blaen rif ID unigryw ei hun - fel arfer yn dechrau gyda ‘SEC’.
- Heb ddefnyddio bylchau neu atalnod, teipiwch y rhif a dylai manylion yr uned lenwi i chi. Byddwch yn gweld manylion am yr orsaf/tariff a byddwch hefyd yn gweld y cysylltwyr (sockets) a restrir gyda botwm ‘Ar Gael’ neu ‘Mewn Defnydd’ wrth eu hymyl - cliciwch ar yr un cywir i chi ac yna cadarnhewch ‘Cychwyn Gwefru’.
- Bydd yr ap yn cysylltu â'r pwynt gwefru a bydd neges yn dweud wrthych chi i gysylltu'ch cebl. Plygiwch i mewn i'r uned wefru ac yna clowch eich car. Dylai'r golau gwefru ar yr uned droi'n wyrdd a dylech weld golau wrth y soced gwefru ar eich car.
- Tra bod y car yn gwefru, cadwch yr ap ar agor yn y cefndir i sicrhau fod y gwefru yn gyson.
- Pan fyddwch chi'n barod i ddatgysylltu dewiswch ‘Stopio Gwefru’ ar yr ap. Arhoswch i'r goleuadau newid i las ar y gwefrydd, ac yna datgysylltwch y cwbl o’r cysylltydd yn gyntaf ac yna car.
- Rhaid eich bod wedi cofrestru gydag Evolt ar gyfer RFID i ddefnyddio'r dull hwn. Cofrestrwch yma (Nodwch fod y tudalen dim ond ar gael yn Saesneg).
- Trowch eich car i ffwrdd ac agorwch y caead gwefru. Plygiwch eich cebl yn eich car.
- Pwyswch RFID fel dull adnabod.
- Sganiwch eich cerdyn RFID dros y darllenydd â’r symbol
- Bydd y sgrin yn dweud eich bod eich cerdyn wedi awdurdodi
- Dewiswch eich cysylltydd (socket)
- Pan yn barod, bydd eich cysylltydd yn fflachio’n las.
- Cysylltwch eich cebl gwefru, mi fydd y sgrin yn gofyn ‘Cychwyn gwefru’.
- Dewiswch ‘cychwyn’. Dylai'r golau gwefru ar yr uned droi'n wyrdd.
- Pan fyddwch eisiau gorffen gwefru, pwyswch ‘Stopio gwefru’ a tapiwch eich cerdyn RFID yn erbyn y darllenydd a phwyswch ‘stop’.
Gwelwch isod fideo yn dangos sut i ddefnyddio gwefrydd SWARCO yn defnyddio cerdyn RFID:
Gweld fideo (Nodwch fod y fideo dim ond ar gael yn Saesneg)
- Trowch eich car i ffwrdd ac agorwch y caead gwefru. Plygiwch eich cebl yn eich car.
- Pwyswch cerdyn banc fel dull adnabod.
- Pwyswch ‘Cychwyn gwefru’.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y darllenydd cerdyn banc. Tapiwch eich cerdyn yn erbyn y darllenydd contactless. Bydd y darllenydd yn awdurdodi £30 o’r cerdyn (fel mae nhw mewn pympiau petrol mewn garej, ac byddwch yn talu yn ôl eich defnydd trydan ar ddiwedd y sesiwn).
- Dewiswch eich cysylltydd. Bydd eich cysylltydd yn fflachio’n las. Cysylltwch eich cebl gwefru.
- Pwyswch ‘cychwyn gwefru’. Dylai'r golau gwefru ar yr uned droi'n wyrdd.
- Pan fyddwch eisiau gorffen gwefru, pwyswch ‘Stopio gwefru’ ar y sgrin. Dewiswch ‘contactless’ fel dull adnabod a tapiwch yr un cerdyn banc ar y darllenydd. Mae hwn yn bwysig iawn defnyddio yr un cerdyn a ddefnyddiwyd i gychwyn gwefru.
Gwelwch isod fideo yn dangos sut i ddefnyddio gwefrydd SWARCO yn defnyddio cerdyn banc 'contactless':
Gweld fideo (Nodwch fod y fideo dim ond ar gael yn Saesneg)
- Trowch eich car i ffwrdd ac agorwch y caead gwefru. Plygiwch eich cebl yn eich car.
- I ddefnyddio Webpay, dilynwch y linc yma ar eich ffôn, rhowch rif y pwynt gwefru, dewiswch y math o gysylltydd a bydd yr dudalen wedyn yn gofyn ichi am fanylion talu.
- Unwaith y byddwch wedi ychwanegu hwn bydd yn cysylltu gyda’r pwynt gwefru a bydd neges yn dweud wrthych chi i gysylltu'ch cebl. Plygiwch i fewn i'r uned wefru ac yna clowch eich car. Dylai'r golau gwefru ar yr uned droi'n wyrdd a dylech weld golau wrth y soced gwefru ar eich car.
Gwelwch isod fideo yn dangos sut i ddefnyddio gwefrydd SWARCO yn defnyddio Webpay:
Gweld y fideo (Nodwch fod y fideo dim ond ar gael yn Saesneg)
Mwy o wybodaeth