Cyngor Cyffredinol am Ynni
Mae swyddogion Cyngor Gwynedd ar gael i helpu efo materion ynni. Cysylltwch â ni os nad ydych chi’n siŵr pa gynllun sydd orau i chi.
Deall eich biliau trydan a nwy
Mae'n bwysig adolygu eich biliau ynni i gael y wybodaeth ddiweddaraf, bod mewn rheolaeth a sicrhau nad ydych yn gordalu.
Darllen mwy am sut i adolygu biliau ynni
Dod o hyd i’ch cyflenwr nwy
Os nad ydych yn gwybod pwy sy’n cyflenwi eich nwy, gallwch ddod o hyd i enw eich cyflenwyr ar-lein.
Mwy o wybodaeth am gael hyd i'ch cyflenwyr nwy
Mesuryddion clyfar
Gall mesurydd clyfar anfon darlleniadau nwy a thrydan yn awtomatig at eich cyflenwr, sy’n golygu y gallant eich bilio’n gywir am yr ynni rydych wedi’i ddefnyddio.
Darllen mwy am fesuryddion clyfar
Tystysgrif perfformiad ynni
Dod o hyd i dystysgrif ynni ar gyfer cartrefi, eiddo busnes ac adeiladau cyhoeddus.
Darllen am ddod o hyd i dystysgrif ynni