Cyllid Cymhwysedd Hyblyg ECO4 Cyngor Gwynedd (ALl ECO4 Flex)
Cynllun sy’n helpu pobl i arbed ynni ac arian ar wresogi eu cartrefi. O dan ECO4, gallech fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref fel system gwres canolog newydd, paneli solar a/neu insiwleiddio.
ECO: Mwy o wybodaeth
Gostyngiad Treth Cyngor
Mae gostyngiad treth Cyngor yn ostyngiad yn eich bil treth Cyngor wedi ei seilio ar eich incwm, maint eich teulu, oedolion eraill sy’n byw gyda chi a faint o dreth Cyngor sydd raid i chi ei dalu.
Mwy am ostyngiadau treth cyngor
Cymorth Costau Byw
Os ydych yn cael trafferth gyda chostau o ddydd i ddydd, mae cymorth ar gael i helpu gyda biliau, bwyd a chostau eraill sy’n gysylltiedig efo’r cartref.
Mwy o wybodaeth: Cymorth Costau Byw
Croeso Cynnes
Mae nifer o leoliadau ar draws Gwynedd yn cynnig ‘Croeso Cynnes’ i unrhyw un ddod i mewn am gysgod, sgwrs neu baned.
Croeso Cynnes: Mwy o Wybodaeth
Grantiau Tai Gwag
Mae cynlluniau ehangach ar gael i adnewyddu tai gwag i safon byw derbyniol, mae hyn yn cynnwys grantiau a benthyciadau gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Gall hyn gynnwys mesurau i wella effeithlonrwydd ynni’r tŷ a’i wneud yn gynhesach.
Grantiau Tai Gwag: Mwy o wybodaeth