Dw i eisiau bod yn fwy ynni-effeithlon
Mae swyddogion Cyngor Gwynedd ar gael i helpu efo materion ynni. Cysylltwch â ni os nad ydych chi’n siŵr pa gynllun sydd orau i chi:
Cynlluniau i helpu chi i fod yn fwy ynni-effeithlon:
Cyllid Cymhwysedd Hyblyg Cyngor Gwynedd
Cynllun sy’n helpu pobl i arbed ynni ac arian ar wresogi eu cartrefi. O dan ECO4, gallech fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref fel system gwres canolog newydd, paneli solar a/neu insiwleiddio.
ECO Cyngor Gwynedd: Gweld mwy
Nyth Cymru
Mae Nyth yn darparu cyngor diduedd ar ynni ac yn gallu cynnig gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i’r rhai sy’n gymwys.
Nyth Cymru: Gweld mwy
Cartrefi Clyd
Mae Cartrefi Clyd yn cynnig gwasanaeth gostyngedig i helpu perchnogion cartrefi i baratoi eu tai ar gyfer y dyfodol, tra’n rheoli’r heriau sy’n gallu codi o ôl-osod tai.
Cartrefi Clyd: Gweld mwy
Cartrefi Gwyrdd Cymru
Cynllun i helpu perchnogion tai yng Nghymru i arbed ar filiau ynni a lleihau eu heffaith amgylcheddol.
Cartrefi Gwyrdd Cymru: Gweld mwy
Prosiect Sero Net Gwynedd
Cyngor am ynysu, atal drafftiau a sut i ddefnyddio ynni’n gost-effeithiol.
Prosiect Sero Net Gwynedd: Gweld mwy
Mesuryddion Clyfar
Gwybodaeth ar osod mesuryddion clyfar yn eich cartref neu fusnes.
Mesuryddion Clyfar: Gweld mwy