Cynllun Tŷ Gwynedd

Ydych chi yn chwilio am dŷ fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu yng Ngwynedd? Efallai y gall cynllun Tŷ Gwynedd eich helpu chi.

 

 

Ar gyfer pwy mae ‘Tŷ Gwynedd’?

Cynllun ar gyfer y farchnad ganolraddol yw Tŷ Gwynedd, sydd wedi’i anelu at bobl sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Gallwch ddarganfod a ydych yn gymwys ar gyfer cynllun Tŷ Gwynedd drwy fynd i wefan Tai Teg:

Tŷ Gwynedd - ydw i yn gymwys?

(Tai Teg ydi'r corff sydd yn gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd).

 

Cofrestru diddordeb

Os ydych yn gymwys gallwch gofrestru eich diddordeb drwy ddilyn y linc isod i wefan Tai Teg: 

Tŷ Gwynedd - cofrestru diddordeb

Wrth gofrestru byddwch yn cael eich hysbysu gan Tai Teg pan fydd ein datblygiadau Tŷ Gwynedd ar gael er mwyn i chi allu gwneud cais (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd).

Ein gweledigaeth yw datblygu tai o ansawdd sy’n fforddiadwy i bobl leol. Byddwn yn cyflawni hyn drwy lynu at yr egwyddorion dylunio canlynol:

Fforddiadwy – Byddwn yn cynnig tai i’w prynu a’u rhentu am bris sy’n fforddiadwy. Byddwn yn gwerthu ar sail ein model rhannu ecwiti; er enghraifft, byddwch yn ariannu canran o’r eiddo drwy gynilon a morgais, a byddwn yn cadw perchnogaeth o’r canran sy’n weddill, gan wneud yr eiddo’n fforddiadwy i’w brynu. Byddwn hefyd yn rhentu rhai o’r tai ac yn cynnig gostyngiad o tua 20% ar rent misol.

Addasadwy – Mae’r gallu i addasu’r tŷ y tu mewn neu’r tu allan yn un o brif rinweddau Tŷ Gwynedd, sy’n caniatáu i’r tŷ gwrdd â’ch anghenion heddiw ac yn y dyfodol.

Cynaliadwy – Bydd ein datblygiadau yn gynaliadwy yn eu dyluniad a gwneuthuriad ac yn ceisio uchafu defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi leol.

Ynni-effeithiol – Byddwn yn anelu i ddefnyddio’r technegau a thechnoleg ddiweddaraf ar gyfer lleihau ôl troed carbon a hwyluso defnydd effeithiol o ynni i breswylwyr.

Y cam cyntaf yw cofrestru eich diddordeb drwy fynd i wefan Tai Teg: 

Cofrestru diddordeb mewn Tŷ Gwynedd

Er efallai na fydd Tŷ Gwynedd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd, byddem yn eich annog i gofrestru eich diddordeb a gwirio eich cymhwysedd rŵan.

Drwy gofrestru’n gynnar, mae’n eich galluogi i symud yn gyflym os daw eiddo ar gael. Bydd deall ble mae’r galw am dai Tŷ Gwynedd hefyd yn ein helpu i adnabod pa ardaloedd i ddatblygu nesaf.

Pam cofrestru rŵan?

  • Byddwch yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Tai Fforddiadwy yng Ngwynedd.
  • Byddwch yn gallu gwneud cais am dai Tŷ Gwynedd pan fyddant ar gael (yn amodol ar argaeledd).
  • Byddwch yn ein helpu i gynllunio ein datblygiadau yn y dyfodol gan y bydd yn dangos i ni yn lle mae'r galw am dai Tŷ Gwynedd.

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer Tŷ Gwynedd, mae ychydig o gynlluniau eraill ar gael a allai fod yn addas i chi:

 

Am y wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar Facebook a Twitter