Grant Cymorth Tai

Mae'r Grant Cymorth Tai yn cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i gomisiynu ac ariannu gwasanaethau a gweithgareddau sy'n atal pobl rhag mynd yn ddigartref, sefydlogi eu sefyllfa dai, neu'n helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw. 

Nid pwrpas y gweithgareddau a gwasanaethau a ariennir trwy’r grant ydy cymryd lle dyletswyddau statudol y Cyngor ar atal digartrefedd, ond yn hytrach ychwanegu at, ategu a chynorthwyo’r dyletswyddau hynny. Mae Cyngor Gwynedd yn comisiynu ac ariannu darparwyr i gynnig cymorth i unigolion bregus i osgoi digartrefedd ac i sefydlogi eu sefyllfa o ran tai er mwyn iddynt gadw eu tenantiaeth a’i galluogi i fyw’n annibynnol. 

Mae yna nifer o ddarparwyr yn cynnig gwasanaethau cymorth tai yng Ngwynedd ar hyn o bryd, ac mae’r manylion yn y Cyfeirlyf Gwasanaethau:

Grant Cymorth Tai – Cyfeirlyfr Gwasanaethau

 

Mae’r grant yn ariannu cymorth sy'n gysylltiedig â thai ac ar gael i bobl fregus i fynd i'r afael â'r problemau lluosog sy'n eu hwynebu, megis:

  • Materion gyda dyledion a rheoli arian
  • Rheoli tenantiaeth a chymorth i setlo a chynnal a chadw cartref
  • Cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau
  • Cefnogaeth i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • Materion iechyd meddwl
  • Helpu i ddeall, darllen a llenwi ffurflenni, llythyrau a biliau
  • Cymorth i ddatblygu sgiliau byw ymarferol
  • Cefnogaeth i chwilio am waith, hyfforddiant a chyflogaeth
  • Cefnogaeth i ymuno â chymunedau a grwpiau lleol
  • Cefnogaeth i gysylltu ag asiantaethau
  • Helpu i ailadeiladu perthnasoedd
  • Cefnogaeth i ddod o hyd i lety addas. 

Os ydych chi’n meddwl bod angen cymorth arnoch gyda un neu fwy o’r uchod yna mae’n bosibl y byddwch yn gymwys.

Dylai ceisiadau am gymorth sy'n gysylltiedig â thai ddod drwy Dîm Un Pwynt Mynediad (SPOA) Cyngor Gwynedd, neu mewn rhai achosion yn uniongyrchol gyda'r darparwr cymorth. Gellir dod o hyd i fanylion am lwybr y cais sydd i'w dilyn ar gyfer prosiectau unigol yn y Cyfeirlyfr Gwasanaethau. 

Gallwch hunangyfeirio neu gallwch ofyn i rywun gyfeirio ar eich rhan. Bydd y Tîm SPOA yn derbyn atgyfeiriadau gan bob asiantaeth gan gynnwys Gwasanaethau Digartref, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaeth Prawf, y GIG, yr Heddlu, meddygfeydd, Elusennau, darparwyr gwybodaeth fel CAB, teulu, ffrindiau neu gymdogion. 

Ar gyfer prosiectau lle gwneir ceisiadau i'r Tîm SPOA dylid anfon atgyfeiriadau at SPOAAdranTai@gwynedd.llyw.cymru, gallwch hefyd ffonio 01286 685100.

Ar gyfer prosiectau lle gwneir ceisiadau yn uniongyrchol i’r darparwr, bydd y manylion cyswllt ac ymgeisio ar gyfer y prosiect hwnnw yn y Cyfeirlyfr Gwasanaethau.

Mae’n rhaid i bob darparwr y Grant Cymorth Tai fodloni amodau a meini prawf llym er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth o’r safon uchaf yn cael ei gynnig i chi. Mae pob darparwr wedi cael ei achredu, ac mae’n rhaid iddynt ddangos tystiolaeth sy’n cadarnhau:

  • eu hymarferoldeb ariannol
  • eu bod yn gymwys i ddelio a bod yn gyfrifol am y Grant Cymorth Tai
  • bod ganddynt bolisïau cyflogaeth effeithiol
  • bod ganddynt weithdrefnau rheoli cadarn
  • enw am berfformiad da a chymwys
  • enghreifftiau o arferion da

Os nad yw’r safonau yma yn cael eu cyflawni neu os oes gennych gwyn i’w adrodd ynglŷn â’r gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn gan ddarparwr gwasanaeth cysylltwch â’r Uned Comisiynu yn yr Adran Tai ac Eiddo:

  • E-bost: GrantCymorthTai@gwynedd.llyw.cymru
  • Ffôn: 01766 771000
  • Cyfeiriad: Uned Comisiynu, Adran Tai ac Eiddo, Cyngor Gwynedd, Stryd Y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH”