Tai ar Daith: Sesiynau galw-i-mewn
Eisiau gwybod mwy am gynlluniau tai Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid? Eisiau gwybod pa help sydd ar gael i ddod o hyd i gartref addas? Dewch i ymuno â ni am un o’n sesiynau ‘Tai ar Daith’.
Pwrpas y digwyddiadau yma yw codi ymwybyddiaeth am y cynlluniau tai sydd ar gael i sicrhau bod gan bobl fynediad at gartrefi addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.
Beth yw Tai ar Daith?
Mae digwyddiadau Tai ar Daith yn cael eu trefnu gan Gyngor Gwynedd ac maen nhw’n cael eu cynnal eleni ym Methesda, Porthmadog, Tywyn a Nefyn. Yn y sesiynau galw-i-mewn anffurfiol yma, gall unrhyw un ddod i ofyn cwestiynau a thrafod materion yn uniongyrchol gyda swyddogion tai arbenigol.
Pam mynychu?
Galwch draw i:
- gyfarfod wyneb yn wyneb â swyddogion y Cyngor a’i bartneriaid i drafod eich anghenion penodol – os oes angen help arnoch i lenwi ffurflen gais am dŷ cymdeithasol neu os ydych chi eisiau trafod cynlluniau tai cyffredinol y Cyngor, rydym yma i helpu.
- ddysgu mwy am y cynlluniau tai sydd ar gael i’ch helpu chi drwy Gynllun Gweithredu Tai’r Cyngor, gan gynnwys ein rhaglen adeiladu tai ‘Tŷ Gwynedd’, grantiau tai gwag a benthyciadau i brynu cartref.
- ddeall yn union beth mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn ei wneud i gynyddu’r cyflenwad tai i bobl leol, sicrhau nad oes neb yn ddigartref yng Ngwynedd a mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.
- gael mynediad at gyfoeth o adnoddau a chyngor arbenigol sy’n ymwneud â’r maes tai.
Pwy sydd am fod yno?
Mae timau ar draws adrannau’r Cyngor am fod yn bresennol, gan gynnwys:
- Prosiectau tai’r Cyngor – dewch i ddysgu mwy am y cynlluniau sydd ar gael gan y Cyngor i'ch helpu i gael hyd i gartref.
- Opsiynau tai – eisiau cyngor a chefnogaeth gyda’r broses o ymgeisio am dŷ cymdeithasol gan swyddogion profiadol? Bydd y tîm Opsiynau Tai yno i helpu.
- Cynllunio – cyfle i gael cyngor anffurfiol neu ofyn cwestiynau am brosiectau datblygu posibl, a thrafod materion sy’n ymwneud â Chyfarwyddyd Erthygl 4.
- Digartrefedd – cefnogaeth i unrhyw un sy’n profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref yng Ngwynedd, o gyngor i aros yn eich cartref, i gyflwyno’n ddigartref i’r Cyngor.
- Cyngor ynni – mae llawer iawn o gynlluniau ar gael i’ch helpu i gadw eich cartref yn gynnes ac ynni-effeithlon. Bydd ein Cynghorwyr Ynni wrth law i drafod opsiynau a'ch helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir.
- Cymorth costau byw – os ydych yn cael trafferth gyda chostau o ddydd i ddydd, bydd cymorth ar gael gan swyddogion i helpu efo biliau, bwyd a chostau eraill sy’n gysylltiedig efo’r cartref.
- Gwybodaeth i deuluoedd – y man cyswllt cyntaf i blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sydd eisiau gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth yn ymwneud â phlant a theuluoedd.
Bydd cymdeithasau tai Gwynedd hefyd yn bresennol, ynghyd â phartneriaid eraill sy’n ymwneud â phrosiectau tai’r Cyngor.
I bwy mae’r digwyddiadau hyn?
Mae digwyddiadau Tai ar Daith yn agored i bawb. P'un a ydych angen cartref neu eisiau gwybod mwy am gynlluniau tai yn y Sir, dewch i ymuno â ni.
Digwyddiadau i ddod:
Bethesda
- Dyddiad: 10 Ebrill 2025
- Amser: 16:00 – 18.30
- Lleoliad: Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, LL57 3NN
Porthmadog
- Dyddiad: 7 Mai 2025
- Amser: 15:00 – 18.30
- Lleoliad: Y Ganolfan, Stryd Fawr, Porthmadog LL49 9LU
Tywyn
- Dyddiad: 15 Mai 2025
- Amser: 15:00 - 18:30
- Lleoliad: Neuadd Pendre, Tywyn, LL36 9DP
Nefyn
- Dyddiad: 3 Mehefin 2025
- Amser: 15:00 - 18:30
- Lleoliad: Y Ganolfan, Ffordd Dewi Sant, Nefyn, LL53 6EA
Mwy o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar tai@gwynedd.llyw.cymru