Adolygiad Meddiannaeth

Rydym yn cynnal adolygiad o fanylion meddiannaeth ar draws Gwynedd. Mae hyn er mwyn penderfynu a godir y swm cywir o Dreth Cyngor ar eiddo yn seiliedig ar eu lefel meddiannaeth.

Er gwybodaeth, mae'r holl ymatebion i’r adolygiad yn cael eu trin gan gyfleuster sganio llywodraeth leol sydd wedi'i leoli'n ganolog yn Nottingham - maent yn prosesu dogfennau ar ran llawer i awdurdod lleol ar draws y Deyrnas Unedig.

 

Am yr adolygiad

Mae'n bwysig i ni sicrhau codir swm cywir o Dreth Cyngor yn seiliedig ar eu lefel meddiant.

Bydd yr adolygiad hwn yn ein galluogi i gywiro cyfrifon drwy gwsmeriaid sy'n gwirfoddoli gwybodaeth wedi'i diweddaru ynghylch meddiannaeth ac i ymchwilio ymhellach i achosion lle mae gennym reswm i gredu y gallai fod anghysondeb yn swm y Dreth Cyngor sy'n cael ei godi.

Mae deddfwriaeth yn bodoli sy'n caniatáu i gyfrifon gael eu haddasu a'u hôl-ddyddio a Treth  Cyngor gael ei adennill. Gall y rhai y profwyd eu bod wedi twyllo'r system yn fwriadol hefyd wynebu erlyniad.

 

Llythyr i drigolion

Byddwn yn anfon llythyr at rhai cwsmeriaid yn fuan gan ofyn iddynt gadarnhau eu sefyllfa gyfredol. Mae hyn yn ein galluogi ni i gadw ein cofrestriadau yn gyfredol a hefyd yn ffordd o ganiatáu i drigolion ein hysbysu os bydd newid wedi digwydd yn eu sefyllfa.

Bydd yr holl ymatebion yn cael eu trin gan gyfleuster sganio llywodraeth leol sydd wedi'i leoli'n ganolog yn Nottingham.

Mae'r ymarfer hwn yn un o lawer o gamau rydym yn eu cymryd i gael gwared ar dwyll.

Bydd gwiriadau yn cael eu gwneud i sicrhau bod y gwybodaeth a ddarperir yn gywir. Fodd bynnag, weithiau gall sefyllfaoedd fod yn anodd i’w egluro.

 

Cwblhau eich adolygiad

Rhaid ymateb i'r adolygiad o fewn 14 diwrnod i sicrhau bod y swm cywir o Dreth Cyngor yn cael ei godi.

Ar-lein
Gallwch gadarnhau eich manylion cyfredol gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein. I gael mynediad i'r ffurflen bydd angen ichi gofrestru eich rhif PIN unigryw. Gallwch ddod o hyd i'r rhif PIN hwn ar y llythyr a anfonwyd atoch.

 Cwblhau eich adolygiad meddiannaeth

 

Trwy'r post
Gallwch gwblhau'r ffurflen ar gefn eich llythyr a'i dychwelyd i:

Adolygiad Incwm a Gwobrau 
P.O. Box 11326
Nottingham
NG19RE

Peidiwch â dychwelyd eich ffurflen i swyddfeydd y cyngor.