Cronfa Ymddiriedolaeth Addysgol Sir Gaernarfon

Beth yw pwrpas y gronfa?

"Caiff y budd i ddisgyblion sydd wedi mynychu am lai na 2 flynedd yn un o Ysgolion y Sir ei amlinellu yng Nghymal 7 pf o’r cynllun trwy fod o gymorth i’w haddysg neu hyfforddiant, yn cynnwys astudiaeth ôl radd mewn prifysgol neu fan dysgu arall. I’w galluogi i baratoi ar gyfer neu eu cynorthwyo gael mynediad at brofessiwn, crefft neu alwad a darparu cyfarpar, dillad, erfynnau, offer neu lyfrau at y diben hwnnw."


Ardal:

Mae'r gronfa hon ar gael i ddisgyblion yn ardal Arfon a Dwyfor.

 

Sut mae gwneud cais?  

Er mwyn cael ei ystyried i dderbyn y cymorth ariannol hwn, rhaid ysgrifennu llythyr cais a'i anfon at : 

Robert John Roberts 
Gwasanaethau Adnoddau Addysg
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

neu e-bostio:  

CronfaYmddiriedolaethAddysgolSirGaernarfon@gwynedd.llyw.cymru

  

Dyddiad cau 

Dyddiad cau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/2025 yw’r 1/12/2025