Urddas Mislif

Mae mynd i'r afael â thlodi mislif yn parhau'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Drwy’r cynllun ‘Cymru sy'n Falch o'r Mislif' mae’n glir bod strategaeth i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif yng Nghymru. Brif nod y cynllun yw sicrhau bod pob unigolyn yn gallu cael mynediad i’r nwyddau angenrheidiol heb teimlo cywilydd, mae hyn er mwyn sefydlu genedl sydd yn falch o’r mislif.

 

Mae Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi mislif ac yn falch fel awdurdod lleol drwy Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru i allu darparu'r rhai mewn angen â chynnyrch misglwyf am ddim.

 

Pwy sy’n gallu derbyn nwyddau?

Mae’r nwyddau ar gael i unigolion sydd yn cael misglwyf. Mi rydym wedi sicrhau bod adnoddau i’ch cefnogi wedi ei leoli ar draws y sir ac bod ein darparwyr yn gallu rhoi y cynnyrch angenrheidiol am ddim i chi.

 

Lle mae'r darparwyr?

Mae’r nwyddau ar gael mewn nifer o sefydliadau a mudiadau gwahanol ar eich cyfer, mewn mannau priodol ag agored o ddydd-i-ddydd.

Er mwyn darganfod mwy o wybodaeth am y darparwyr perthnasol; cliciwch y dolenni:

Pa gynnyrch sydd ar gael?

Mae amrywiaeth o gynnyrch ail-ddefnyddiadwy a chynnyrch di-blastig ar gael yn ddibynnol ar eich anghenion! Ymholwch neu ymwelwch a’ch darparwr lleol am fwy o wybodaeth.

 

Mislif Fi! 

Mae’r mislif yn rhan naturiol o fywyd, a dylai neb deimlo cywilydd nac embaras am hynny! Mae tua hanner y boblogaeth yn cael mislif ac rydym am rymuso merched a phobl ifanc sy'n cael mislif ynghyd â'r rheini sydd o'u cwmpas i fod yn falch o'u mislif - Gweld Mwy.

 

Mwy o wybodaeth: 

Mae 48% o ferched yn y DU yn teimlo cywilydd o'u mislif*

*Plan International
Close