Ysgol Ein Harglwyddes Newydd
Mae Ysgol Ein Harglwyddes newydd yn cael ei adeiladu ar hen safle Ysgol Glanadda ym Mangor diolch i fuddsoddiad o £8.4m. Mi fydd yr ysgol newydd yn cynnig addysg gynradd Gatholig i blant Bangor a’r cylch.
Mae £7.7 miliwn ar gyfer creu yr ysgol, gydag 85% o’r gyllideb yn dod o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a’r 15% sy’n weddill gan Esgobaeth Gatholig Wrecsam.
Yn ychwanegol i’r ddarpariaeth ysgol, sicrhawyd £700,000 o Raglen Cyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru er mwyn cynnwys Uned Blynyddoedd Cynnar ar safle’r ysgol newydd.
Gwaith yn dechrau ar gartref newydd i Ysgol Ein Harglwyddes
Ar 8 Hydref 2024, cafodd disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor gyfle i fod yn rhan o seremoni fer i nodi dechrau’r gwaith adeiladu ar eu hysgol newydd ar hen safle Ysgol Glanadda yn y ddinas.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i nifer o sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r ysgol ddod at ei gilydd i ddathlu fod gwaith wedi dechrau ar y prosiect gwerth £8.4 miliwn i godi ysgol newydd sbon, gydag adnoddau modern fydd yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd addysgiadol i’r plant.
Mae buddion amgylcheddol mawr i’r cynllun – drwy godi’r ysgol ar safle tir llwyd, ble safai’r hen Ysgol Glanadda, mae arbedion amlwg i’r amgylchedd. Bydd yr ysgol newydd hefyd yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg wyrdd.
Roedd cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n allweddol i gymuned Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor yn bresennol yn y seremoni, gan gynnwys – yr Esgob Peter Brignall, Esgobaeth Gatholig Wrecsam; Pennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Ein Harglwyddes; y Cynghorwyr Beca Brown a Gareth A Roberts, aelodau o Gyngor Gwynedd; a’r Cynghorydd Gareth Parry, Maer Dinas Bangor.
Ymunwyd â hwy gan swyddogion o Adran Addysg ac Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a chwmni Read Construction, sydd wedi ennill y cytundeb i wneud y gwaith adeiladu, er mwyn egluro mwy am y prosiect a beth fydd y buddion i’r disgyblion a’r gymuned ehangach.
Dywedodd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:
“Rwy’n falch iawn o weld y gwaith ar yr ysgol newydd yn dechrau. Bydd Ysgol Ein Harglwyddes ar ei newydd wedd yn darparu cyfleusterau modern i blant Bangor a’r cyffiniau, ac yn caniatáu iddynt gyrraedd eu llawn botensial.
“Rwyf yn edrych ymlaen i weld y plant yn mwynhau eu hysgol newydd, fydd yn cynnwys chwe ystafell ddosbarth gyda mynediad i ofod allanol, neuadd, cegin ac ystafell amlbwrpas. Bydd gan yr ardal allanol arwynebedd caled ar gyfer chwarae, ardal gemau aml-ddefnydd a chae chwarae gwair.
“Er mor gartrefol a hanesyddol yw’r hen adeilad, rwy’n hyderus bydd y disgyblion, eu teuluoedd a’r staff dysgu wrth eu bodd gyda’r ysgol newydd.”
Dywedodd y Gwir Barchedig Peter M. Brignall, Esgobaeth Gatholig Wrecsam:
“Rwyf yn hynod falch ein bod heddiw yn gallu nodi carreg filltir arwyddocaol ar ein taith o adeiladu Ysgol Gynradd Gatholig newydd ym Mangor. Mae hyn wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd lawer, a bydd gan Ysgol Ein Harglwyddes yr adeilad newydd yr ydym wedi dyheu amdano.
“Mae partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Esgobaeth Wrecsam a Chyngor Gwynedd yn rhoi bywyd newydd i hen safle Ysgol Glanadda ac yn rhyddhau Ysgol Ein Harglwyddes o gyfyngiadau ei hadeilad oes Fictoria, sydd â mynediad gwael a chyfleusterau cyfyngedig. Rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod y bydd yr ysgol newydd yn agor ei drysau i ddarparu amgylchedd dysgu a chyfleoedd addysgol yr 21ain Ganrif, a hynny dan do a thu allan, i blant Ysgol Ein Harglwyddes.”
Dywedodd Mrs Aimee Jones, Pennaeth Ysgol Ein Harglwyddes:
“Ar ran holl staff a chyn benaethiaid Ysgol Ein Harglwyddes, dymunaf rannu fy llawenydd wrth i ni nodi dechrau’r gwaith adeiladu ar ein hysgol newydd.
“Mae staff a llywodraethwyr cyfredol a blaenorol, ynghyd â llawer o ddisgyblion a rhieni sydd wedi dod trwy glwydi’r ysgol dros y blynyddoedd, yn edrych yn ôl gydag atgofion melys am eu hamser yn ein hadeilad presennol.
“Wedi dweud hynny, rydym wedi ein cyffroi o weld gwaith adeiladu yn dechrau ac edrychwn ymlaen ar gyfer y bennod newydd hon o ddarparu cenedlaethau’r dyfodol gyda’r addysg Gatholig orau, mewn amgylchedd fodern wedi ei adeiladu i’r pwrpas. Rydym wedi bod yn dyheu am hyn am flynyddoedd lawer.
“Dymunwn ddiolch i Saer y penseiri am eu cydweithrediad ac am ganiatáu ein mewnbwn i’r dyluniadau cychwynnol. Rydym yn benderfynol o ddod a’n hanes cryf a’n ethos gynhwysol, ofalgar a theuluol gyda ni pan rydym yn mudo i’r safle newydd.”
Ychwanegodd Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction:
“Mae Read wedi eu cyffroi o fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i ddarparu’r ysgol newydd hon, fydd wedi ei adeiladu i’r pwrpas, ac a fydd yn gwella’r amgylchedd ddysgu ar gyfer disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes.
“Mae cynaladwyedd yn greiddiol i’r adnodd 21ain Ganrif hon, ac mae wedi ei dylunio yn unol â gofynion Sero Net Llywodraeth Cymru. Drwy gydol y gwaith adeiladu, byddwn yn cydweithio â’r ysgol a’r gymuned er mwyn sicrhau bydd y cynllun yn dod â buddion ychwanegol i’r ardal leol.”
Y nod yw i gwblhau y gwaith ar yr ysgol newydd yn fuan yn 2026 er mwyn agor yn nhymor yr Haf.