Cais mynediad dosbarth Meithrin
Mae gan blant sy’n 3 oed cyn 1 Medi hawl i addysg rhan-amser mewn ysgol gynradd (dosbarth Meithrin). Mwy o wybodaeth
Rhaid gwneud cais cyn 1 Chwefror 2025 (ar gyfer Medi 2025).
Cyn llenwi’r ffurflen gais:
Gwneud cais mynediad Dosbarth Meithrin
(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwch yn cael eich hysbysu am y canlyniad ar 16 Ebrill.
Os ydych wedi gwneud cais am le yn Ysgol Santes Helen neu Ysgol Ein Harglwyddes byddwn yn gyrru eich cais ymlaen atyn nhw. Y nhw sydd yn gyfrifol am eu trefniadau mynediad eu hunain ac yn arbenigo mewn darparu addysg Gatholig. Mae’n bosib y byddant yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth er mwyn gallu prosesu eich cais e.e. ydi eich plentyn wedi ei fedyddio yn Gatholig a’i peidio.
Gweld neu ddiweddaru cais
I weld neu ddiweddaru cais rydych wedi ei gyflwyno, ewch i’ch cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein a chlicio ar ‘Fy ngheisiadau’. Mynd i Fy Nghyfrif
Ceisiadau hwyr
Mae angen gwneud y cais am le mewn dosbarth Meithrin cyn 1 Chwefror 2025 (ar gyfer Medi 2025). Mae'n bosib gwneud cais ar ôl y dyddiad yma, ond bydd yn cael ei ystyried fel cais hwyr ac mae'n bosib na fyddwch yn eich hysbysu am y canlyniad ar 16 Ebrill.
Mwy o wybodaeth
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd
Neu cysylltwch â ni:
- mynediadysgol@gwynedd.llyw.cymru
- 01286 679904.
Ni all yr Awdurdod drafod argaeledd llefydd mewn unrhyw ysgol dros y ffôn.
Gweler hefyd