Faint fydd rhaid i mi ei dalu?

Bydd y swm yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar:

  • Band Treth Cyngor y tŷ
  • Yr ardal / cymuned y mae'r tŷ wedi ei leoli.

Mae'r ddogfen isod yn nodi y swm sydd angen ei dalu ar gyfer gwahanol fandiau Treth Cyngor ym mhob cymuned yng Ngwynedd.  

Treth Cyngor holl gymunedau Gwynedd fesul band (2024/25)


Dod o hyd i'ch band eiddo:   

Rhowch eich cod post yn y blwch i ddod o hyd i fand treth cyngor y tŷ.

 

 

Apelio yn erbyn eich band Treth Cyngor

Yr Asiantaeth Brisio sy'n gyfrifol am fandio tai - cysylltwch â nhw os ydych am apelio.

  • cyfeiriad: Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Tŷ Wycliffe, Lon Werdd, Durham, DH1 3UW
  • Ffôn: 03000 505505
  • Ebost: ctinbox@voa.gov.uk

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y VOA: apelio yn erbyn eich band Treth Cyngor



I lle mae'r arian yn mynd?

Mae tair elfen i Dreth Cyngor:

1. mae rhywfaint yn mynd i Gyngor Gwynedd,

2. peth i Awdurdod yr Heddlu

3. a pheth i Gynghorau Cymuned.

Cyngor Gwynedd sy'n casglu Treth Cyngor ar ran bawb, ond yr Heddlu a'r Cynghorau Cymuned sy'n penderfynu faint o dreth mae'n nhw eisiau codi.

Mwy o wybodaeth: