Llewyrch o'r Llechi, Cronfa Ffyniant Bro
Mae’r cynllun Llewyrch o’r Llechi: Ffyniant i’n dyfodol o’n gorffennol diwydiannol yn rhan o ymdrechion Cyngor Gwynedd i wireddu gweledigaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sef:
Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol.
Mae’r cynllun Llewyrch o’r Llechi yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd ar ran ystod o bartneriaid, ac yn gynllun sydd wedi derbyn nawdd gan Gronfa Ffyniant Bro (Levelling Up Fund) Llywodraeth Prydain. Mae cyfanswm y cynllun yn £26m gyda £18.8m yn dod o’r Gronfa Ffyniant Bro. Mae nifer o ymyraethau yn rhan o’r cynllun Llewyrch o’r Llechi yn ardaloedd Dyffryn Peris, Dyffryn Ogwen a Bro Ffestiniog, mae rhain yn cynnwys:
Hwb Dinorwig:
- Ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi ar safle’r Gilfach Ddu er mwyn creu gofod arddangos, addysg a prif hwb dehongli y Safle Treftadaeth y Byd, yn ogystal a gwaith cadwraeth i’r adeilad hanesyddol.
- Gwelliannau i Barc Padarn yn cynnwys uwchraddio a chreu llwybrau, ail bwrpasu adeiladau hanesyddol, gwella isadeiledd ymwelwyr a gwaith cadwraeth.
Hwb Ogwen
- Buddsoddiad yn Neuadd Ogwen i uwchraddio’r system sain a ffabrig yr adeilad i alluogi digwyddiadau gael eu cynnal yno.
- Ailddatblygu adeilad Yr Hen Bost ar y stryd fawr i greu unedau busnes, canolfan dreftadaeth bwrpasol ac adnodd cymunedol.
- Creu llwybr beicio a cherdded i gysylltu Bethesda a Chwarel Penrhyn, yn cynnwys gwaith uwchraddio pontydd, llwybrau a dehongli.
Hwb Ffestiniog
- Uwchraddio Aelwyd yr Urdd yn ganolfan cymunedol gyda darpariaeth dehongli a threftadaeth yno.
- Ail bwrpasu dwy siop wag ar y stryd fawr yn unedau busnes, gofod preswyl a gofod creadigol i’r gymuned.
- Creu llwybr beicio a cherdded i gysylltu Blaenau Ffestiniog a Chwarel Llechwedd.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gwaith cadwraeth i strwythurau hanesyddol y tirwedd llechi yn y dair ardal, yn ogystal a buddsoddiadau yn y prif ganolfannau trwy wella dehongli, arwyddo a dodrefn stryd, a chynlluniau celf cyhoeddus.
Ceir mwy o wybodaeth am Llewyrch o’r Llechi ym mhrospectws y cynllun:
Prospectws Llewyrch o'r Llechi
Gweld cais gwreiddiol Llewyrch o'r Llechi
Mwy o wybodaeth a chysylltu â ni
neu cysylltwch drwy'r cyfryngau cymdeithasol:
Mae mwy wybodaeth am Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ar gael ar wefan Llechi Cymru.