Canllawiau Cynllunio Atodol
Yn dilyn mabwysiadu CDLl ar y Cyd mae’r Cynghorau yn y broses o baratoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar bynciau gwahanol. Mae CCA yn ehangu ar yr egwyddorion polisi a gynhwysir o fewn y CDLl ar y Cyd ac yn cynnig arweiniad i ymgeiswyr ynghyd a Swyddogion wrth asesu ceisiadau cynllunio.
Mae’r ddogfen ganlynol yn rhoi ychwaneg o eglurder ynglŷn a broses o baratoi Canllawiau Cynllunio Atodol:-
Ymgynghoriad cyhoeddus ar Ganllaw Cynllunio Atodol
Mae'r Canllaw Cynllunio Atodol canlynol wedi ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus:
Yn gysylltiedig â’r broses o baratoi'r CCA, mae'r asesiadau isod wedi eu cwblhau:
Gellir archwilio copi papur o’r CCA (a’r dogfennau ategol cysylltiedig) yn Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau), ynghyd â llyfrgelloedd cyhoeddus y sir.
Rhoi eich barn
Rydym yn gwahodd unigolion a sefydliadau i roi eu barn ar gynnwys y CCA (a’r dogfennau cysylltiedig).
Rhoi eich barn: ffurflen ar-lein
Fel arall, mae posib lawr lwytho copi o’r ffurflen a’i anfon nôl atom i’r manylion cyswllt canlynol:-
Rhaid anfon eich sylwadau erbyn 7 Ebrill 2025.
Canllawiau Cynllunio Atodol (Mabwysiedig)
Mae'r Canllawiau canlynol wedi bod trwy gyfnod o ymgynghori cyhoeddus ac wedi cael eu mabwysiadu gan y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.
Ynghyd â phenderfyniad y Cynghorau i fabwysiadu’r CDLl ar y Cyd penderfynwyd y byddai’r Canllawiau Cynllunio Atodol a gafodd eu mabwysiadu i gefnogi’r hen Gynllun Datblygu Unedol yn parhau i fod yn ystyriaeth gynllunio faterol, wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, lle mae’n briodol, nes eu bod yn cael eu disodli gan rai newydd neu’n cael eu tynnu’n ôl.
Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol Mabwysiedig canlynol yn berthnasol wrth ystyried a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd:-