Mae Academi Gofal Gwynedd yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa yn y maes Gofal drwy weithio gyda phobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd!
Gyda llwybrau amrywiol drwy'r Academi Gofal, p'un a ydych yn chwilio am rôl mewn Rheoli Gofal, dod yn Weithiwr Cymdeithasol neu'n Therapydd Galwedigaethol, mae posibilrwydd datblygu drwy’r academi i rôl sy'n addas i chi. Mae’r sector bob amser angen aelodau tîm brwdfrydig i gefnogi pobl ledled Gwynedd.
Mae’r cynllun yn gyfle unigryw i unrhyw un ddatblygu gyrfa yn y sector Gofal yng Nghyngor Gwynedd. Byddwch yn derbyn profiadau ymarferol ac yn cael amryw o gyfleoedd i ddatblygu drwy gael eich mentora gan arbenigwyr yn y maes. Bydd cyfleoedd datblygu parhaus ar gael i chi yn rhad ac am ddim er mwyn meithrin a datblygu eich sgiliau i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus o fewn gwasanaethau Gofal Cyngor Gwynedd.
Mwy o wybodaeth am Academi Gofal Gwynedd