A oes terfyn oedran?
Nid oes terfyn oedran, ond mae angen i chi fod yn 17 oed neu'n hŷn i wneud cais am y swyddi hyn.
Nid wyf yn gallu gyrru, ydw i yn gallu ymuno â’r academi?
Gallwch, rydym yn cynnig 10 gwers gyrru am ddim i'ch helpu i fynd ar y ffordd.
Mi wnawn ein gorau i’ch lleoli mewn gwasanaeth agos i’ch cartref, fodd bynnag, bydd angen i chi allu teithio i wahanol weithleoedd ar draws y sir.
Mae gennyf radd yn barod, ydw i yn gymwys?
Ydych- rydym yn derbyn ceisiadau gan y rhai sydd eisoes wedi bod drwy addysg uwch, ond bydd angen i bob ymgeiswyr ddilyn strwythur addysgu’r Academi.
Oes angen talu ffioedd addysg?
Mae'r holl gyrsiau a chymwysterau rydych wedi cofrestru ynddynt fel rhan o'r Academi Gofal yn cael eu talu amdanynt yn llawn gan y Cyngor.
Beth os nad wyf am wneud yr holl gymwysterau?
Drwy gydol eich amser ar yr Academi Gofal byddwch yn derbyn cefnogaeth lawn i gyrraedd bob carreg filltir allweddol gan sicrhau y gallwch symud ymlaen i'r cymhwyster nesaf. Os byddwch yn penderfynu ar un o'r cerrig milltir hyn nad ydych am symud ymlaen ymhellach, yna byddwn yn eich cefnogi i chwilio am swydd lawn amser o fewn y sector Gofal sydd yn cyfateb a’ch cymwysterau.
Pam mae angen Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan arnaf ar gyfer Iechyd a Gofal cymdeithasol (AWIF)?
Mae angen i chi fod wedi cwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (AWIF) fel rhan o'r cofrestriad i weithio fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hwn yn ofyniad gan Ofal Cymdeithasol Cymru.
Fframwaith sefydlu ar gyfer iechyd a gofal
Beth os nad ydw i'n llwyddo mewn lefel?
Byddwch yn cael eich cefnogi gan fentor o fewn eich lleoliad yn ogystal â chael cefnogaeth cydlynydd yr Academi. Bydd y mentoriaid yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd i gyrraedd eich llawn botensial.
Ydych chi'n cefnogi pobl ag anableddau?
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal, gyda chymorth ar gael i'ch helpu i gyflawni eich nodau gyrfa.
Beth yw hyd y cynllun?
Bydd hyd y cynllun yn dibynnu ar y llwybr gyrfa rydych yn penderfynu ei ddilyn.
A oes sicrwydd swydd ar ddiwedd y cynllun?
Bydd pob ymdrech posibl yn cael ei wneud i sicrhau bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael pob cyfle posib i dderbyn swydd wedi’r cynllun.
Oes angen profiad yn y maes penodol cyn gallu ymgeisio am y swydd?
Nac oes, nid oes angen profiad blaenorol. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn berson sensitif, gonest a dibynadwy gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolion bob amser ac yn dangos parodrwydd i ddatblygu.