Mae gwenyn meirch hyd at 30mm o hyd, gyda dwy lygad siâp aren, dwy aden yn plygu'n ôl ar hyd y corff a phatrwm du a melyn trawiadol.
Maent yn adeiladu nyth newydd bob blwyddyn o gymysgedd o'u poer a phren. Os ydych yn gweld llawer o wenyn yn mynd a dod o un twll, hollt neu agoriad, mae'n debyg fod nyth yno. Mae’r nyth yn edrych fel pêl lwyd, sy’n amrywio o faint pêl golff i faint teiar car.
Does dim rheswm i ladd gwenyn unigol, ond gallant fod yn niwsans os ydynt yn dod i gysylltiad rheolaidd â phobl. Mae gwenyn yn bwydo ar ffrwythau a bwyd melys tua diwedd yr haf.
Mae eu pigiad yn boenus ond ddim yn beryglus, ond os yw'r pigiad yn y gwddf gall y tocsin effeithio ar yr anadl. Mewn rhai achosion gall achosi sioc anaffylactig; ewch at y meddyg os ydych yn amau bod hyn rhywun yn mynd i sioc.
Beth mae modd ei wneud?
Er mwyn osgoi denu gwenyn i’r tŷ:
- cadwch fagiau a biniau gwastraff i ffwrdd oddi wrth y tŷ
- seliwch bwyntiau mynediad fel awyrellau a chraciau o amgylch ffenestri a drysau
- chwiliwch am arwyddion o nyth yn eich croglofft / atig o bryd i’w gilydd drwy’r haf
- peidiwch â lladd gwenyn meirch unigol – mae hyn yn rhyddhau cemegyn sy’n denu gwenyn eraill
Nid yw bob amser yn rhaid dinistrio nyth gwenyn meirch; gallwch beidio â tharfu arnynt ac ni fyddant yn datblygu’n bla. Cofiwch fod gwenyn meirch yn gwneud lles drwy ladd trychfilod eraill yn yr ardd.
Mae nifer o driniaethau ar gael i ddifa gwenyn meirch. Cyn prynu pryfleiddiad, ystyriwch:
- ydych chi'n siŵr mai gwenyn meirch yw'r pryfed?
- oes arnoch chi angen dillad pwrpasol i atal cael eich pigo?
- sut ydych chi am gyrraedd y nyth?
- beth fydd effaith cythruddo'r gwenyn os nad yw'r driniaeth yn gweithio?