Cyfarwyddyd Erthygl 4
Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd. Mae Rhybudd Cadarnhau wedi ei osod ac mae'r newid yn weithredol o 1 Medi 2024.
O’r dyddiad yma, bydd angen derbyn caniatâd cynllunio cyn newid defnydd eiddo preswyl i fod yn ail gartref, llety gwyliau tymor-byr neu ddefnydd cymysg penodol.
Cefndir
Fel rhan o fesurau i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr ar gymunedau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio.
Mae’r diwygiadau i ddeddfwriaethau cynllunio yn golygu fod modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd) gyflwyno’r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.
Yn dilyn cyfnod ymgysylltu cyhoeddus ym mis Awst a Medi 2023, ac ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Cyflwynwyd adroddiad am hyn i Gabinet y Cyngor ar 16 Gorffennaf 2024.
Cyfarwyddyd Erthygl 4
Pwrpas y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yw diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir y canlynol:
- Newid defnydd prif gartref (dosbarth defnydd C3) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) neu lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
- Newid defnydd ail gartref (dosbarth defnydd C5) i lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
- Newid defnydd llety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) a defnyddiau cymysg penodol.
Gweld diffiniadau llawn dosbarth defnydd
Mae papur wedi cael ei baratoi sydd yn amlygu’r amgylchiadau eithriadol er mwyn cyfiawnhau’r bwriad. Gweld Papur cyfiawnhau cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4
Ymhellach mae Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd wedi cael ei baratoi, bydd yr asesiad yn cael ei addasu yn ystod y broses o baratoi a derbyn cymeradwyaeth o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4. Gweld Asesiad Effaith Integredig.
Cwestiynau cyffredin:
Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn offeryn cynllunio sy’n galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i ymateb i anghenion penodol eu hardaloedd.
Ar gyfer rhai mathau penodol o ddatblygiad nid oes angen derbyn caniatâd cynllunio, sef yr hyn a elwir yn ‘hawliau datblygu a ganiateir’.
Ond trwy weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4, gall Awdurdod Cynllunio Lleol fynnu caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o ddatblygiadau mewn ardal benodol.
Fel rhan o ymdrechion i geisio cael rheolaeth o’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio Deddfau Cynllunio perthnasol. Mae’r diwygiadau hyn yn galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i reoli’r defnydd o dai fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.
Mae dosbarthiadau defnydd (categorïau) wedi eu cyflwyno sy’n berthnasol i dai preswyl, ail gartrefi a llety gwyliau, fel a ganlyn:
- Dosbarth C3 - Tai annedd, a ddefnyddir fel unig breswylfa neu brif breswylfa (Prif Gartref),
- Dosbarth C5 - Tai annedd a ddefnyddir mewn modd ac eithrio fel unig breswylfa neu brif breswylfa (Ail Gartref)
- Dosbarth C6 - Llety tymor byr (Llety Gwyliau Tymor Byr).
Gweld diffiniadau llawn dosbarth defnydd
Roedd modd newid rhwng y dosbarthiadau defnydd penodol yma heb yr angen am hawl cynllunio. Ond, er mwyn cael rheolaeth o’r defnydd o dai, mae modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddiwygio’r system gynllunio yn eu hardal trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Mae cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn golygu fod modd i Awdurdod Cynllunio Lleol dynnu’r hawliau datblygu a ganiateir (Permitted Development Rights) ar gyfer rhai mathau o ddatblygiad. Mae hyn yn ei wneud yn ofynnol i dderbyn caniatâd cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn newid defnydd eiddo i ddefnydd penodol fel a nodir yn y Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Os ydych eisiau newid defnydd eiddo preswyl (sydd yn brif gartref) yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd i fod yn ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol o 1 Medi 2024 ymlaen, bydd rhaid i chi dderbyn caniatâd cynllunio gan Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer ymgymryd â’r newid defnydd hynny.
Os ydi eiddo preswyl eisoes yn cael ei ddefnyddio fel ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol (cyn 1 Medi 2024) a dymunir parhau gyda’r defnydd sefydledig - ni fydd angen gwneud dim yn sgil gweithredu ar y Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Mae Cyngor Gwynedd wedi galw am gyflwyno newidiadau i sicrhau gwell rheolaeth o’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau, boed yn ail-gartrefi neu lety gwyliau tymor byr. Ymgyrchwyd ar gyfer y newid hyn fel rhan o ymdrechion i sicrhau fod yna ddarpariaeth fforddiadwy o dai sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol.
Fel yr amlygwyd mewn gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn 2020 “Rheoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau”, yng Ngwynedd mae’r canran uchaf o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yng Nghymru. Mae ymchwil mwy diweddar gan y Cyngor hefyd yn dangos fod 65.5% o boblogaeth Gwynedd ar gyfartaledd, yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r canran yn cynyddu’n sylweddol mewn ardaloedd lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.
Trwy weithredu’r mesurau newydd yn llwyddiannus, gellir cael rheolaeth o’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd. Ymhellach, mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio yn cynnig cyfle i reoli’r defnydd a wneir o dai newydd i’r dyfodol.
Na, nid ydi’r penderfyniad i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ôl-weithredol ac nid oes angen i berchnogion eiddo gyflwyno cais cynllunio am ddefnydd sydd wedi ei sefydlu yn barod.
Mae’r cyfarwyddyd yn berthnasol i unrhyw newidiadau defnydd o 1 Medi 2024 ymlaen pan fydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol (Cyngor Gwynedd) yn gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ffurfiol.
Fodd bynnag os ydych yn dymuno derbyn cadarnhad ffurfiol o ddefnydd cyfreithiol eich eiddo, mae posib gwneud hynny drwy gyflwyno cais Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon i’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon yn rhoi sicrwydd bod y defnydd presennol o'r adeilad yn gyfreithlon ac nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y defnydd hwnnw. Nid yw'n orfodol cael Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon, fodd bynnag, efallai y bydd amgylchiadau lle gallai fod yn ddefnyddiol cadarnhau bod defnydd yr eiddo yn gyfreithlon.
Cynghorir perchnogion ail gartrefi a llety gwyliau i gasglu tystiolaeth neu gadw cofnod sy'n dangos y defnydd o’i eiddo (e.e. tystiolaeth treth neu drosglwyddiadau gosod) ar yr adeg y daw Cyfarwyddyd Erthygl 4 i rym ar 1 Medi, 2024. Gall y dystiolaeth yma gael ei ddefnyddio i gefnogi eich achos pe fyddai’r defnydd yn cael ei gwestiynu yn y dyfodol.
Fe ddiffinnir y math yma o ddefnydd yn ddefnydd cymysg C3/C6. Yn dilyn gweithredu ar y Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar 1 Medi 2024 fe fydd angen derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer ymgymryd a’r newid defnydd hyn.
Mae trefn bendant roedd angen i’r Cyngor fel Awdurdod Cynllunio Lleol ei ddilyn wrth gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Ar 13 Mehefin 2023 cyflwynwyd adroddiad i gyfarfod o Gabinet Cyngor Gwynedd yn amlinellu’r dystiolaeth i gefnogi cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd.
Yn ystod y cyfarfod hynny cytunwyd y Cabinet i osod rhybudd Cyfarwyddyd Erthygl 4 a chynnal cyfnod ymgysylltu cyhoeddus lle bydd cyfle i aelodau’r cyhoedd gyflwyno sylwadau.
Cafodd yr holl ymatebion eu hystyried yn fanwl, cyn i’r mater dderbyn ystyriaeth Cabinet y Cyngor am benderfyniad terfynol. Wedi i’r Cabinet bleidleisio o blaid cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd yn cael ei weithredu o 1 Medi 2024 ymlaen.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn ystyried cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ardal Gwynedd lle maent yn gweithredu fel Awdurdod Cynllunio Lleol.
Mater i’r Awdurdodau Cynllunio Lleol unigol fydd dod i benderfyniad ffurfiol ar y mater.
Mae rhagor o fanylion am Erthygl 4 a Pharc Cenedlaethol Eryri ar eu gwefan: Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri
Map yn dangos ffiniau ardaloedd Cynllunio
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych gwestiwn pellach sydd heb ei gyfarch uchod, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynllunio:
Cysylltu â'r Gwasanaeth Cynllunio
(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)