Diffiniadau dosbarth defnydd
Mae dosbarthiadau defnydd (categorïau) wedi eu cyflwyno sy’n berthnasol i dai preswyl, ail gartrefi a llety gwyliau, fel a ganlyn:
Diffiniadau dosbarth defnydd
Dosbarth Defnydd | Eglurhad |
Dosbarth C3.
Tŷ Annedd; Prif Gartrefi |
Defnyddio tŷ annedd fel unig breswylfa neu brif breswylfa, sy’n cael ei meddiannu am fwy na 183 o ddiwrnodau mewn blwyddyn galendr gan –
(a) person sengl neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio un aelwyd;
(b) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i’r preswylwyr; neu
(c) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i’r preswylwyr (ac eithrio defnydd sydd yn nosbarth C4).
Dehongli Dosbarth C3:
- Wrth gyfrifo'r 183 o ddiwrnodau, mae unrhyw amser a dreulir gan un aelwyd mewn llety a ddarperir at ddibenion galwedigaethol, megis rigiau olew neu farics, yn cyfrannu at y 183 o ddiwrnodau
|
Dosbarth C5.
Tŷ Annedd; Cartrefi eilaidd
|
Defnydd fel tŷ annedd, ac eithrio fel unig breswylfa neu brif breswylfa, sy’n cael ei meddiannu am 183 o ddiwrnodau neu lai gan –
(a) un person neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio un aelwyd;
(b) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i’r preswylwyr; neu
(c) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i’r preswylwyr (ac eithrio defnydd o fewn dosbarth C4).
Dehongli Dosbarth C5:
- At ddibenion Dosbarth C5(a), dehonglir “un aelwyd” yn unol ag adran 258 o Ddeddf Tai 2004
|
Dosbarth C6.
Llety gosod tymor byr |
Defnyddio tŷ annedd fel llety gosod tymor byr masnachol am gyfnod heb fod yn hwy na 31 o ddiwrnodau (ar gyfer pob cyfnod meddiannu).
|