Pwyllgor Cynllunio a'ch hawl i siarad

Y Pwyllgor Cynllunio

I weld gwybodaeth am y Pwyllgor Cynllunio a cheisiadau sy'n mynd gerbron y pwyllgor, ewch i'r adran Pwyllgorau ar y wefan hon: Y Pwyllgor Cynllunio.

Eich hawl i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio

Gall unrhyw un fynychu pwyllgor cynllunio er mwyn gwrando ar y trafodaethau, ond ni fydd gennych hawl i ymyrryd yn y drafodaeth nac i leisio barn oni bai eich bod yn cyflwyno cais i siarad ymlaen llaw.

Gall gwrthwynebwyr a chefnogwyr wneud cais i siarad am hyd at 3 munud yn y Pwyllgor Cynllunio. Mae siaradwyr yn cael eu cyfyngu i un o blaid ac un yn erbyn unrhyw gais unigol.


Cyflwyno cais i siarad mewn pwyllgor

Mae'n rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig i’r Gwasanaeth Cynllunio cyn gynted â phosib – fan bellaf erbyn 5pm ar y dydd Iau cyn y Pwyllgor. Gallwch wneud hyn:

  • E-bost: cynllunio@gwynedd.llyw.cymru
  • Llythyr: wedi ei gyfeirio at y Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA
  • Dylai eich cais gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn yn ystod dydd ynghyd â manylion y cais cynllunio penodol a’r cyfeirnod os yn bosibl.

 

Canllawiau gweithredu

Mater i chwi yw beth y dymunech ei ddwyn i sylw pwyllgor ond o dan y Ddeddf Cynllunio mae’n rhaid i benderfyniadau ar geisiadau cynllunio fod yn unol â’r cynlluniau datblygu a chanllawiau cenedlaethol oni bai bod ystyriaethau cynllunio eraill yn cyfiawnhau penderfyniad sydd yn groes. Ni all y Cyngor wrthod caniatâd cynllunio dim ond am y rheswm bod gwrthwynebiadau wedi eu cyflwyno na chymeradwyo cais dim ond am fod nifer yn ei gefnogi neu fod dim gwrthwynebiad.

Rhaid i’r materion a godir gennych ymwneud ag ystyriaethau materol cynllunio e.e.
  • Y polisïau yn y cynlluniau datblygu perthnasol a chanllawiau cynllunio cenedlaethol.

  • Penderfyniadau apeliadau blaenorol.

  • Effaith ar gymeriad, harddwch ac edrychiad ardal e.e. safle, graddfa, maint, uchder a dyluniad.

  • Effaith ar fwynderau trigolion cyfagos e.e. oriau defnydd, gor-edrych, amharu’n ormodol, a sŵn traffig.

  • Effaith ar ddiogelwch priffyrdd e.e. gwelededd gwael, diogelwch cerddwyr, parcio, dwysedd y defnydd.

Ychydig neu ddim sylw a ellir ei roi i faterion nad ydynt yn ystyriaeth faterol cynllunio ac yn faterion preifat e.e.

  • Sefydlogrwydd tir, traeniad, rhagofalon tân, glanweithdra a lle mewnol (ymdrinnir â’r rhain yn bennaf dan ddeddfwriaeth ar wahân i Gynllunio e.e. Rheoliadau Adeiladu)
  • Cymeriad personol yr ymgeisydd.
  • Anghytundeb ynglŷn â pherchnogaeth y tir yr effeithir arno.
  • Hawliau tramwy preifat a thraeniau a hawlfreintiau preifat a chyfamodau.
  • Effaith y bwriad ar werth eiddo
  • Cystadleuaeth fasnachol e.e. rhwng siopau, tai bwytai, modurdai a.y.b.
  • Colli golygfeydd

Dim ond yr ymgeisydd, ei asiant neu’r rhai sydd eisoes wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod ymgynghori 21 niwrnod a all wneud cais i annerch y pwyllgor. Dim ond un person sy’n cael siarad o blaid neu yn erbyn cais. Caniateir i wrthwynebydd ac ymgeisydd siarad unwaith ar gais cynllunio yn unig. Os yw mater yn cael ei ohirio, ac eich bod wedi siarad yn y Pwyllgor hynny, ni fydd hawl i chwi siarad y tro nesaf y bydd y cais ger bron y Pwyllgor.

  • Mae’r drefn i’w dilyn ar gyfer cyflwyno cais yr un fath i bawb a ddymunai siarad mewn pwyllgor.
  • Eich cyfrifoldeb chwi yw darganfod os yw’r cais penodol y dymunech siarad arno i’w gyfeirio i’r pwyllgor neu i’w ystyried dan hawliau dirprwyedig. Gallwch ddarganfod hyn drwy gysylltu â’r Uned Cynllunio.
  • Ond un person all siarad, ac os oes nifer o bobl yn dymuno siarad mae’n rhaid iddynt benderfynu pwy o’u plith fydd y siaradwr, a rhoi gwybod i’r Gwasanaeth Cefnogol Cynllunio yn ysgrifenedig neu drwy e-bost.
  • Un amod y cynllun hwn yw eich bod yn caniatáu i’r Cyngor roi eich manylion cyswllt i eraill (sydd o’r un farn) sy’n dymuno siarad er mwyn eich cynorthwyo i enwebu siaradwr. Pe na bai hyn yn arwain at gytundeb, yr unigolyn cyntaf i roi gwybod i’r Cyngor a gaiff ganiatâd i siarad.
  • Rhoddir caniatâd i chwi siarad os yw’r cais ar agenda’r pwyllgor yn unig. Gallwch archwilio’r adroddiadau ar raglen y pwyllgor o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod unai yn y Swyddfa neu ar ‘Dilyn a Darganfod Ceisiadau Cynllunio’ ar safle we’r Cyngor.
  • Ni fydd y Gwasanaeth Cynllunio yn derbyn cyfrifoldeb dros fethu â chysylltu â chwi trwy’r manylion cyswllt a gyflwynir gennych.
  • Hysbysir yr ymgeisydd/asiant, os nad yw wedi rhoi cais i siarad yn y pwyllgor, os ceir rhybudd gan wrthwynebydd o ddymuniad i siarad, fel y gall ymarfer ei hawl i ymateb iddo yn y pwyllgor.

Oni bai bod Cadeirydd y pwyllgor yn nodi fel arall, gwrandewir ar y ceisiadau cynllunio yn unol â’r drefn y maent yn ymddangos ar y rhaglen a gyhoeddwyd ac ni ellir gohirio cais ar sail na allwch fod yn bresennol neu oherwydd nad ydych yn barod i siarad pan fydd y Cadeirydd yn cyflwyno cais.

Gallwch dderbyn gwybodaeth o’r swyddfa cynllunio ynglŷn â lleoliad y cais y dymunwch siarad amdano ar y rhaglen.

Anfon fideo/Anerchiad Ysgrifenedig:

  • Bydd gofyn i chi gyflwyno fideo i’r Gwasanaeth Cynllunio erbyn 5pm ar y dydd Iau cyn y Pwyllgor.
  • Rhag ofn y bydd problemau technegol gofynnir i chi ddarparu copi ysgrifenedig o’ch anerchiad i’r Gwasanaeth Cynllunio erbyn 5pm y dydd Iau cyn y Pwyllgor y bydd y cais yn cael ei glywed ynddo.
  • Yn unol gyda’r drefn siarad arferol, noder na ddylai’r fideo o’ch cyflwyniad nac eich anerchiad ysgrifenedig fod yn fwy na 3 munud o hyd.
  • Pwysleisir mai cyfrifoldeb yr unigolyn sydd gyda diddordeb i siarad fydd i holi a derbyn cadarnhad am pryd bydd cais penodol yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor

Mynychu’r Pwyllgor o’r Siambr:

  • Cyfeiriad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd Cyngor Gwynedd, Caernarfon, LL55 1BN
  • Bydd angen cofrestru i siarad erbyn 5yh ar y dydd Iau cyn y Pwyllgor gan ddatgan eich bod yn bwriadu mynychu’r Pwyllgor mewn person
  • Mae’n rhaid i chwi fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor a chyflwyno eich hun i’r Cyfreithiwr erbyn 12.45 p.m. Fel arfer bydd y Pwyllgor yn dechrau am 1.00 p.m. Bydd y Cyfreithiwr yn egluro'r trefniant a’r eisteddle i chwi siarad y pryd hynny.
  • Pan wahoddir chwi gan Gadeirydd y Pwyllgor, gallwch siarad unwaith ac am hyd at 3 munud a dylid pwysleisio'r pwysigrwydd o gadw’n gaeth at yr amser.
  • Nid oes angen ail adrodd yr holl bwyntiau a wnaed mewn unrhyw lythyrau gan fod y pwyntiau wedi eu hanfon i’r aelodau cyn dyddiad y pwyllgor.
  • Cynghorir chwi i ganolbwyntio ar y prif bwyntiau sy’n achosi pryder i chwi neu yr ydych yn gefnogol iddynt.
  • Ni chaniateir dosbarthu unrhyw ddeunydd ysgrifenedig, lluniau neu ddefnyddio unrhyw offer cyflwyno.
  • Ar ôl siarad mae’n rhaid gadael i’r pwyllgor drafod y mater ac ni ddylech ymuno yn y drafodaeth hon.
  • Gall y Cadeirydd ofyn cwestiwn/cwestiynau os bydd angen eglurhad ar rai o’r pwyntiau a godwyd.

Fel arfer gwneir penderfyniad yn y cyfarfod ond weithiau fe ohirir tan gyfarfod dilynol er mwyn gwneud archwiliad o’r safle gan y Pwyllgor. Os cynhelir ymweliad safle ni chaniateir siarad cyhoeddus ar y safle.

Bydd yr Uned yn hysbysu’r ymgeisydd/asiant o’r penderfyniad ar ôl dyddiad y pwyllgor.

 

Mwy o wybodaeth 

 

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni: