Asesiadau

Asesiadau diagnostig

Os ydych yn amau bod chi neu eich plentyn yn awtistig, y cam cyntaf yw siarad efo’ch meddyg teulu, yr ysgol neu ymwelwyr iechyd. 

Bydd y sgwrs/apwyntiad yma yn gyfle i chi

  • adrodd y rhesymau yr ydych yn meddwl eich bod chi neu’r person arall yn awtistig.
  • gofyn am gyfeiriad am asesiad awtistiaeth.

Mae'n bosib y byddant yn eich helpu i lenwi ffurflen yn cofnodi eich profiadau, anawsterau a phryderon, ac yn llofnodi eich caniatâd i fynd ymlaen efo’r cyfeiriad. Bydd yr asesiad awtistiaeth yna cael ei gynnal gan arbenigwr mewn awtistiaeth. 

Cliciwch ar y penawdau isod am fwy o wybodaeth am asesiadau:

Os yr ydych yn gofyn am gyfeiriad ar ran plentyn, byddwch yn cael eich cyfeirio at dim diagnostig, sef grŵp o arbenigwyr gwahanol sy’n gweithio efo’i gilydd i asesu os ydi eich plentyn yn awtistig.

Gall y grŵp yma gynnwys seicolegydd, seiciatrydd, paediatregydd, therapydd lleferydd ac iaith, ymysg eraill.

Bydd un aelod o’r tîm yma yn gweithredu fel cydlynydd achos, sef yr unigolyn a fydd yn gweithredu fel eich pwynt cyswllt cyntaf yn ystod y cyfeiriad. Y person yma fydd yn eich diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau, ateb eich cwestiynau, ac yn casglu unrhyw wybodaeth fydd ei angen i helpu efo’r asesiad, er enghraifft, gan ysgol, doctor neu weithiwr cymdeithasol perthnasol y plentyn.

Bydd sawl apwyntiad gwahanol i’r asesiad, a gall barhau am rai misoedd. Yn eich sesiwn olaf bydd y Tîm yn adrodd os ydi’ch plentyn yn derbyn diagnosis awtistiaeth neu beidio ac yn gyrru adroddiad ysgrifenedig i chi yn rhestru eu rhesymau.

Gweld mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Niwroddatblygiadol Betsi Cadwaladr

Os ydych yn gofyn am gyfeiriad ar ran eich hun, neu ar ran oedolyn arall, byddwch yn cael eich cyfeirio i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI)

Bydd y GAI yn neilltuo tîm i weithio efo chi i greu asesiad mor drylwyr a phosib. Bydd y tîm yn cynnwys arbenigwyr gwahanol megis nyrs, seicolegydd, seiciatrydd, therapydd galwedigaethol, ymarferydd arbenigol awtistiaeth ac yn y blaen. Bydd un o’r rhain yn gweithredu fel cydlynydd achos a fydd yn eich diweddaru chi, ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Mae’n debyg bydd sawl apwyntiad gwahanol dros gyfnod o rai misoedd. Bydd y tîm yn mynd dros eich plentyndod, eich datblygiad, ac yn gyffredinol y rhesymau yr ydych yn meddwl eich bod yn awtistig. Gall hyn fod yn brofiad emosiynol a heriol ond bydd eich cydlynydd achos ar gael i gynnig unrhyw gefnogaeth a fydd angen.

Os ydych yn meddwl eich bod yn awtistig ac am gael asesiad, y cam cyntaf yw siarad efo’ch meddyg teulu. 

 

 

Mynediad at wasaethau cymdeithasol Gwynedd - Asesiadau gofal a chymorth 

Weithiau mae angen gofal a chefnogaeth ar bobl gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Gall Cyngor Gwynedd ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i unigolion awtistig, eu teuluoedd a gofalwyr di-dâl. Am sgwrs bellach cysylltwch  â'r Tim Awtistiaeth:


Gwybodaeth am eich hawliau

Os ydych yn teimlo eich bod angen cefnogaeth neu asesiad pellach, cysylltwch â'r Gwasanaeth Oedolion:

Cysylltu â'r Gwasanaeth Oedolion

Os ydych yn rhiant neu yn gofalu am blentyn awtistig ac angen cefnogaeth neu asesiad pellach cysylltwch â:

Mae gofalwyr di-dal yn ffynhonnell hanfodol o gynhaliaeth a chymorth i llawer o bobl efo anghenion ychwanegol, yn cynnwys rhai pobl awtistig.

Os ydych yn rhiant, brawd neu chwaer, ffrind neu gymydog sy’n darparu gofal anffurfiol i unigolyn awtistig, mae’n holl-bwysig felly eich bod yn cael eich cefnogi hefyd, er mwyn eich lles chi a’r unigolyn yr ydych yn gofalu amdano.

Gallwch ddewis os ydych eisiau asesiad i chi fel gofalwr ar ben eich hun, neu os ydych eisiau asesiad ar y cyd efo’r person yr ydych yn gofalu amdano.

Bydd y gweithiwr yn cysylltu i drafod beth sy'n bwysig i chi a byddwch yn cael cyfle i drafod eich cyfrifoldebau gofal, unrhyw heriau yr ydych yn eu wynebu, a'ch dymuniadau chi.


Gwneud cais am asesiad gofalwr

I wneud cais am asesiad gofalwr, cysylltwch â Gwasanaeth Oedolion Cyngor Gwynedd:

Cais am asesiad gofalwr: Cysylltu â'r Gwasanaeth Oedolion

Gweld gwybodaeth Gofalwyr ifanc