Help i fyw'n annibynnol
Mae pawb eisiau byw’n annibynnol, gan aros yn ein cartrefi ein hunain, a chymdeithasu yn ein cymunedau.
Pa help sydd ar gael i chi?
Defnyddiwch y teclyn hunanasesu ar-lein Helpu'n Hun i ddod o hyd i wybodaeth am offer sydd ar gael i wneud eich bywyd bob dydd yn haws. Mae asesiad Helpu’n Hun yn cynnig cyngor i’ch helpu efo anawsterau yr ydych yn eu wynebu yn:
- Eich cartref – e.e. yr ystafell ymolchi, grisiau, yr ystafell fyw, yr ardd.
- Gweithgareddau bob dydd - e.e. siopa, gwisgo, paratoi bwyd.
- Eich iechyd – e.e. rheoli meddyginiaeth, diogelwch yn y cartref, golwg a chlyw.
Hunanasesiad Helpu’n Hun
Mae gan Dewis Cymru hefyd restr o sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau neu weithgareddau i’ch cefnogi i fyw’n annibynnol:
Dewis Cymru
Asesiad gan y Gwasanaeth Oedolion
Os ydych wedi gwneud yr hunanasesiad uchod ac yn teimlo eich bod angen sgwrs bellach gallwch gysylltu â ni.
Byddwn yn cydweithio efo chi er mwyn asesu eich anghenion, tra'n ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan aelodau o'r teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned.
Gwneud cais am asesiad
Mwy o wybodaeth am yr asesiad, a phwy sy'n gymwys i dderbyn cefnogaeth
Offer i'ch helpu i fyw yn annibynnol
Mae'n bosib y bydd yr asesiad yn dangos y gall offer penodol eich help o gwmpas y tŷ neu wrth i chi deithio a chymdeithasu.
Mae'n bosib prynu llawer o offer yn breifat a hunangyfeirio eich hun at rai gwasanaethau heb dderbyn asesiad. Dyma'r math o offer a gwasanaethau sydd ar gael:
Help o gwmpas y tŷ
Gwasanaeth monitro sy’n eich galluogi i alw am help ddydd neu nos drwy gyffwrdd botwm, neu drwy gyfres o synwyryddion yn eich cartref yw teleofal. Mae’n ffordd ataliol o gynnig gofal o bell i drigolion, ac yn gallu bod o gymorth i leihau risgiau o fewn y cartref neu alluogi unigolion i barhau i fyw mor annibynnol â phosib.
Mwy o wybodaeth a gwneud cais am wasanaeth Teleofal
Mae'n bosib prynu mân offer (e.e. offer ymolchi, codwyr cadeiriau) o siopau lleol megis
Os ydych angen cadair arbenigol er mwyn eich cefnogi gyda osgo neu drosglwyddiadau gallwch gysylltu gyda’r isod er mwyn trefnu asesiad:
Os ydych angen lifft grisiau cysylltwch â:
Byw yn eich eiddo eich hun/rent preifat
Os ydych chi’n byw yn eich eiddo eich hun/rent preifat ac angen canllawiau, mân addasiadau i'r cartref neu gefnogaeth gyda chynllunio a threfnu addasiadau mawr (e.e. cawod mynediad gwastad) yn breifat, cysylltwch â:
Os ydych mewn sefyllfa i fod yn trefnu a thalu am unrhyw addasiad mawr arall (e.e. cawod mynediad gwastad) argymhellir i chi fod yn cysylltu gyda’ch adeiladwr lleol.
Byw mewn eiddo sy'n berchen i Gymdeithas Dai
Os ydych yn byw mewn eiddo sydd yn berchen i Gymdeithas Dai, cysylltu’n uniongyrchol â nhw er mwyn hunangyfeirio am addasiadau mân (e.e. canllawiau, “key safe”):
Nid yw'n bosib i ni ddarparu llythyrau cefnogol ar gyfer budd-daliadau, symud eiddo, bathodynnau glas ac ati.
Os ydych angen llythyr cefnogol, cysylltwch gyda'r gweithiwr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio gyda chi. Mae'n bosib y bydd eich gweithiwr yn rhannu copi o’r asesiad diweddaraf yn hytrach nag ysgrifennu llythyr cefnogol penodol.
Wrth i ni fynd yn hŷn, mae’r risg o gael anaf difrifol o ganlyniad i gwympo yn cynyddu. Gall hyn fod yn rhwystr i sut mae rhywun yn byw eu bywydau.
Mwy o wybodaeth atal cwympiadau
Mae’r Gwasanaeth Cymorth Casglu ar gael i bobl sydd ddim yn gallu mynd â’u biniau neu focsys ailgylchu allan i’r man casglu oherwydd anabledd neu salwch.
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Cymorth Casglu
Rhoi gwybod am broblem efo offer wedi torri / angen ei gasglu
Os ydych wedi derbyn offer o'r Gyd-Storfa a bod yr offer wedi torri ac angen ei gasglu ffoniwch:
Close
Help wrth deithio a chymdeithasu
Mae’r gwasanaeth “The Wales Mobility Driving Assessment Service” yn cwblhau asesiadau gyda gyrwyr, teithwyr a gofalwyr sydd yn cael anawsterau gyrru neu trosglwyddo mewn/allan o’r car oherwydd cyflyrau meddygol (corfforol neu gwybyddiaeth).
Mae modd i chi gael eich cyfeirio am gadair olwyn syml drwy eich Meddyg Teulu, Ffisiotherapydd, neu drwy’r Nyrs Ardal sydd yn gweithio gyda chi.
Mae hefyd modd i chi eu llogi gan: