skip to main content
Fy Nghyfrif
English
Cyngor Gwynedd
Chwilio:
Trigolion
Busnesau
Y Cyngor
Ymweld
Cartref
>
Trigolion
>
Parcio ffyrdd a theithio
>
Parcio a thocynnau parcio
>
Telerau ac amodau - Tocyn Parcio Lleol
Telerau ac amodau - Tocyn Parcio Lleol
Dim ond cyfeiriadau o fewn pellter penodol i faes parcio arhosiad hir all brynu Tocyn Parcio Lleol.
Dim ond yn yr UN maes parcio sydd wedi ei nodi ar y Tocyn Parcio Lleol y mae’r tocyn yn ddilys.
Er mwyn cadarnhau fod perchennog y tocyn yn byw yn y cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen byddwn yn gwirio’r wybodaeth yn erbyn y Gofrestr Etholiadol Lawn. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol os nad ydi’r enw / cyfeiriad yn cyd-fynd â’r wybodaeth yr ydym ni yn ei ddal.
Nid yw’n bosib i fusnesau wneud cais am Docyn Parcio Lleol.
Bydd y dyddiad cychwyn a dyddiad gorffen wedi ei argraffu ar eich tocyn. Bydd eich tocyn yn ddilys rhwng y dyddiadau yma yn unig.
Nid oes llecyn parcio wedi’i warantu. Rhaid parcio oddi fewn y mannau sydd wedi’u marcio.
Rhaid arddangos y tocyn yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd, ac mae’n rhaid medru ei ddarllen o’r tu allan. Mae peidio ag arddangos y tocyn yn drosedd o dan Orchymyn Parcio Oddi Ar y Stryd y Cyngor a gallwch dderbyn Rhybudd Talu Cosb. Mae telerau ac amodau sydd ar fwrdd tariff y meysydd parcio yn berthnasol.
Dim ond ar gyfer cerbyd gydag injan ynddo mae’n bosib prynu tocyn. Ni ellir prynu tocyn ar gyfer parcio trelar / carafán ayyb yn y meysydd parcio.
Ni ddylech lungopïo na newid eich tocyn, na gadael i rywun arall wneud hynny.
Os ydych yn colli Tocyn Parcio Lleol bydd cost o £20 am ail-argraffu ac ail-anfon y tocyn.
Yn unol â’r Rheoliadau Gwerthu o Bellter mae gennych saith diwrnod gwaith ar ôl derbyn y telerau ac amodau i ganslo’r gwasanaeth. Bydd rhaid dychwelyd y tocyn parcio cyn y bydd ad-daliad yn cael ei roi. Ar ôl saith diwrnod gwaith, ni fydd ad-daliad ar gael am y tocyn parcio.
Prynu tocyn parcio lleol