Tocyn Parcio Lleol

Prynu Tocyn Parcio Lleol

Prynwch Docyn Parcio Lleol er mwyn parcio mewn UN maes parcio arhosiad hir agos i’ch cartref (telerau ac amodau yn bodoli). 

Prynu tocyn ar-lein 
(rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

Dros ffôn: 01766 771000

 

Pris

£70 y flwyddyn

 

Lle ga’i ddefnyddio’r tocyn?

Gallwch barcio mewn UN maes parcio arhosiad hir agos i’ch cartref efo Tocyn Parcio Lleol. Nid yw pob cyfeiriad yng Ngwynedd yn gymwys i brynu Tocyn Parcio Lleol. Gweld map meysydd parcio Gwynedd.

 

Wedi colli eich tocyn

Os ydych wedi colli eich tocyn mae’n bosib prynu un newydd am £20.

Ffoniwch 01766 771000

 

Cysylltu â ni:

Gallwch hefyd archebu Tocyn Parcio Gwynedd yn unrhyw un o Siopau Gwynedd