Digartrefedd - Protocol Tywydd Garw

Mae'r Protocol Tywydd Garw yn cael ei weithredu yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol. Mae'r mesur brys, dros dro hwn yn sicrhau bod unrhyw un sy'n cysgu allan yng Ngwynedd yn gallu cael llety i aros yn ddiogel rhag tywydd peryglus.

Cysylltwch â ni

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cysgu allan pan fydd y Protocol yn cael ei weithredu, cysylltwch â Chyngor Gwynedd a gofynnwch am y Gwasanaeth Digartrefedd drwy ffonio 01766771000.

Gallwch hefyd ddefnyddio StreetLink os ydych eisiau rhoi gwybod i ni am rywun sy’n cysgu ar y stryd.


Beth yw’r Protocol Tywydd Garw?

Mae’r Protocol yn cael ei weithredu mewn ymateb i ragolygon tywydd garw, megis tywydd oer iawn, glaw neu eira trwm, gwyntoedd cryfion neu amodau peryglus eraill sy’n peri risgiau iechyd sylweddol i’r rhai sy’n cysgu allan.

O dan y Protocol hwn, bydd unrhyw un sy’n cyflwyno’n ddigartref yn cael cynnig lle i aros nes i’r cyfnod o dywydd eithafol ddod i ben.

 

Beth sy'n digwydd pan mae’r Protocol yn cael ei weithredu?

Ynghyd â’r camau arferol pan fydd rhywun yn cyflwyno’n ddigartref i’r Cyngor, mae’r canlynol yn digwydd:

  • Bydd Cyngor Gwynedd yn rhannu’r neges ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook, X a Blue Sky)
  • Bydd swyddogion yn gweithio gyda’n partneriaid i rannu’r newyddion bod y Protocol ar waith i sicrhau fod pawb sydd ei angen yn derbyn cefnogaeth a llety.

 

Cefnogaeth i bobl sy’n profi digartrefedd

Mae’n bwysig deall mai mesur brys dros dro yw’r Protocol Tywydd Garw, sy’n cael ei weithredu yn ystod tywydd eithafol yn unig.

Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi pobl sy'n profi digartrefedd trwy gydol y flwyddyn. Os ydych yn ddigartref / cysgu allan ar hyn o bryd, neu os ydych yn poeni am rywun arall, cysylltwch â ni: 

Gallwn asesu eich anghenion a thrafod y gefnogaeth sydd ar gael. 

Mwy o wybodaeth