Digartrefedd
Mewn argyfwng – dwi’n ddigartref ar hyn o bryd
Os ydych yn ddigartref / cysgu allan ar hyn o bryd, neu os ydych yn poeni am rywun arall, cysylltwch â ni:
Gallwn asesu eich anghenion a thrafod y gefnogaeth sydd ar gael.
Close
Mae digartrefedd yn golygu mwy na 'chysgu allan' yn unig. Mae’n gallu golygu:
- bod gennych chi ddim cartref lle gallwch fyw gyda’ch teulu agos, neu gydag unrhyw berson y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddyn nhw fyw gyda chi – er enghraifft, gofalwr llawn amser.
- bod eich cartref yn un dros dro.
- bod gennych chi ddim caniatâd i fyw lle rydych chi.
- eich bod chi wedi cael eich cloi allan.
- eich bod chi ddim yn gallu byw yn eich cartref oherwydd trais neu gamdriniaeth.
- bod hi ddim yn rhesymol i chi aros yn eich cartref am unrhyw reswm (er enghraifft, os yw’r cartref mewn cyflwr gwael iawn).
- eich bod chi ddim yn gallu fforddio aros lle rydych chi.
- eich bod chi’n byw mewn cartref symudol, carafán neu gwch a bod gennych chi ddim lle i’w roi.
Gallwch hefyd gysylltu â ni am gyngor a chefnogaeth os yw'n debygol y byddwch yn ddigartref yn yr 8 wythnos nesaf (56 diwrnod).
Dwi mewn perygl o fod yn ddigartref
Os ydych yn poeni am gael eich gwneud yn ddigartref, cysylltwch â thîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd cyn gynted â phosib:
Mae sawl rheswm all olygu bod pobl mewn perygl o fod yn ddigartref:
-
cartref mewn cyflwr gwael
-
trafferthion gyda phartner / teulu / landlord
-
cartref ynghlwm â swydd sy’n dod i ben
-
dyledion morgais / rhent.
Gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor ar yr opsiynau sydd ar gael er mwyn gwneud yn siŵr na fyddwch y mynd yn ddigartref.
Os oes gennych chi eiddo cymdeithasol ac yn poeni am golli eich gartref, cysylltwch â’r gymdeithas dai perthnasol:
Cefnogaeth bellach:
- Cyngor ar Bopeth: Cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim ar ystod eang o faterion sy’n ymwneud â digartrefedd.
- Shelter Cymru: Mae Shelter Cymru yn darparu gwasanaethau cyngor a chymorth annibynnol ledled Gwynedd, i denantiaid a pherchnogion tai sydd dan fygythiad o ddigartrefedd.
Penderfyniad Cyngor Gwynedd i gael ‘ystyriaeth o fwriadoldeb’