Ymgynghoriad Llanbedr
Dyddiad Cau: 6 Mai, 2025
Lleisiwch eich barn ar gynigion trafnidiaeth sy’n cael eu datblygu yn Llanbedr drwy gwblhau ein harolwg a/neu ewch i unrhyw un o’n sesiynau ymgysylltu galw heibio.
Mae Cyngor Gwynedd, ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ymchwilio i ymyriadau trafnidiaeth posibl a allai gael eu rhoi ar waith i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth ym mhentref Llanbedr.
Nod y gweithgarwch ymgysylltu hwn, a fydd yn para 6 wythnos, yw casglu adborth gan y gymuned leol, perchnogion busnes, a’r sawl sy’n ymweld â’r ardal ar y cynigion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer fel rhan o astudiaeth WelTAG Cam 2, sy’n cael ei chynnal gan WSP ac YGC, ar ran Cyngor Gwynedd.
Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech chi gwblhau’r arolwg a ddarperir.
Bydd eich adborth yn cael ei ddefnyddio i’n helpu i nodi opsiwn a ffefrir i’w ddatblygu’n ddyluniad mwy manwl a’i ddarparu yn y pen draw (yn amodol ar gyllid).
Mae'r arolwg yma yn cael ei gynnal rhwng 25 Mawrth a 6 Mai.
Rhoi eich barn: cwblhau'r arolwg ar-lein
Fersiwn Papur
Gallwch wneud cais am gopi o’r arolwg mewn print bras (yn Gymraeg neu Saesneg) drwy e-bostio: LlanbedrWelTAG@wsp.com
Os byddai’n well gennych bostio arolwg papur wedi’i gwblhau, neu os byddai’n well gennych beidio â chwblhau’r arolwg, ond os hoffech chi rannu eich barn, cewch:
- Postio i: Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau (Llanbedr), Adran yr Amgylchedd. Cyngor Gwynedd, Caernarfon, LL55 1SH.
- E-bostio: LlanbedrWelTAG@wsp.com
Mi fydd angen i chi agor yr opsiynau isod er mwyn gallu cwblhau'r arolwg:
Yng ngoleuni argymhellion Panel Adolygu Ffyrdd Llywodraeth Cymru a’r polisi trafnidiaeth mwy diweddar, sef Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru, rydym wedi datblygu opsiynau posibl ar gyfer mynd i’r afael â’r problemau trafnidiaeth y gwyddys amdanynt yn Llanbedr. Mae opsiynau gwahanol wedi’u nodi ar gyfer y senario lle caiff y Ffordd Liniaru Cyflymder Isel ei hadeiladu (Gyda Ffordd Liniaru Cyflymder Isel) a’r senario lle na chaiff y ffordd ei hadeiladu (Heb Ffordd Liniaru Cyflymder Isel). Mae hyn yn ein galluogi i ddeall a oes unrhyw opsiynau a all fynd i’r afael â’r materion y gwyddys amdanynt heb fod angen ffordd newydd i’r gorllewin o Lanbedr, a nodi mesurau eraill a all fod yn bosibl hefyd ym mhentref Llanbedr ac ar hyd Ffordd Mochras i wella diogelwch a’r gymuned leol os caiff y Ffordd Liniaru Cyflymder Isel ei hadeiladu.
Mae’r opsiynau posibl wedi’u nodi fel a ganlyn:
Mae’r tudalen cyntaf o’r opsiynau yn dangos ‘Cynllun Trosolwg’, sydd yn manylu’r holl elfennau ym ymhob opsiwn. Yna, mae cynlluniau gyda mwy o fanylion i bob elfen i’w gweld a’u hystyried. Nodwch ein bod yn ymwybodol fod rhai lleoliadau ble mae elfennau penodol yn rhyngweithio gyda’i gilydd o fewn opsiynau; byddwn yn ystyried hyn ymhellach yn dilyn y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus.
Mae’r rhannau y cyfeirir atynt yn y cynlluniau i’w gweld yma, er gwybodaeth.
Pentref Llanbedr – gwelliannau ar hyd yr A496 ac yng nghanol y pentref
Senario Heb Ffordd Liniaru Cyflymder Isel
- Opsiwn 1 – Gwelliannau o ran Diogelwch
- Opsiwn 2 – Gwelliannau o ran Diogelwch, Teithio Llesol, a Thrafnidiaeth Gyhoeddus
- Opsiwn 3 – Gwelliannau o ran Diogelwch, Teithio Llesol, Trafnidiaeth Gyhoeddus, a Llif Traffig (Signalau Traffig)
- Opsiwn 4 – Gwelliannau o ran Diogelwch, Teithio Llesol, Trafnidiaeth Gyhoeddus, a Llif Traffig (Parcio i Drigolion oddi ar y Stryd)
Senario Gyda Ffordd Liniaru Cyflymder Isel
- Opsiwn 5 – Gwelliannau o ran Diogelwch
- Opsiwn 6 – Gwelliannau o ran Diogelwch, Teithio Llesol, a Thrafnidiaeth Gyhoeddus
Ffordd Mochras – gwelliannau rhwng pentref Llanbedr, yr orsaf reilffordd, a Mochras
Senario Heb Ffordd Liniaru Cyflymder Isel
- Opsiwn 7 – Gwelliannau o ran Diogelwch
- Opsiwn 8 – Gwelliannau o ran Diogelwch a Theithio Llesol
Senario Gyda Ffordd Liniaru Cyflymder Isel
- Opsiwn 9 – Gwelliannau o ran Diogelwch
- Opsiwn 10 – Gwelliannau o ran Diogelwch a Theithio Llesol
Gorsaf Reilffordd Llanbedr – gwelliannau i’r sefyllfa o ran parcio ceir a beiciau
Senarios Gyda a Heb Ffordd Liniaru Cyflymder Isel
- Opsiwn 11 – Gwelliannau i’r Sefyllfa Bresennol o ran Parcio Ceir a Beiciau
- Opsiwn 12 – Lleoedd Parcio Newydd i Geir a Beiciau
Mwy o wybodaeth
Fel yr amlinellwyd yn WelTAG Cam 0 - Yr Achos dros Newid, mae’r cerbydau modur y mae angen iddynt yrru drwy’r pentref ar hyd yr A496 yn cael effaith negyddol ar y gymuned ac ymwelwyr â Llanbedr. Caiff hyn ei adlewyrchu gan y gyfradd uchel o wrthdrawiadau ar hyd yr A496 drwy Lanbedr, yn ogystal â’r anghysondeb mewn amseroedd teithio drwy’r pentref, yn enwedig yn ystod y tymor twristiaeth.
Mae’r cerbydau modur sy’n teithio drwy Lanbedr yn effeithio ar gysylltedd wrth gerdded neu fynd ar feic hefyd. Nid oes unrhyw lwybrau troed ar ochr y ffordd drwy’r pentref ac mae hyn yn cyfrannu at bryderon am ddiogelwch a hygyrchedd dulliau llesol. Mae’n cael effaith negyddol ar leoliad y pentref hefyd; mae’r amgylchedd adeiledig yn llai deniadol nag y gallai fod pe bai gwelliannau’n cael eu gwneud.
Ar y sail hon, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â’r gymuned leol i nodi bod angen gwelliannau yn Llanbedr, yn benodol er mwyn:
- Gwella diogelwch o ran pob dull teithio;
- Annog a galluogi siwrneiau drwy ddulliau teithio cynaliadwy yn y pentref ac yn yr ardal gyfagos;
- Gwella’r amgylchedd adeiledig yn Llanbedr;
- Lleihau’r effaith y mae traffig sy’n gysylltiedig â’r economi ymwelwyr yn ei chael ar y gymuned leol.
Fel y gwyddoch o bosibl, cafwyd cymeradwyaeth gynllunio ar gyfer ffordd osgoi newydd i’r gorllewin o Lanbedr yn 2020. Fodd bynnag, oherwydd yr argymhellion yn Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru yn 2021, cafodd yr arian ar gyfer y cynllun blaenorol ei dynnu’n ôl.
Felly, mae angen newidiadau i’r cynllun blaenorol er mwyn i Lywodraeth Cymru ystyried y posibilrwydd o ariannu’r cynllun ymhellach.
Er i’r Panel Adolygu Ffyrdd argymell na ddylai’r cynllun blaenorol fynd rhagddo, awgrymwyd y byddai’n fuddiol i Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru gael trafodaeth bellach ynghylch pecyn amgen o fesurau i leihau effaith negyddol traffig yn Llanbedr, gan nodi barn y gymuned bod ‘rhaid gwneud rhywbeth’. Fel rhan o hyn, awgrymwyd y dylid ystyried adeiladu ‘ffordd osgoi cyflymder isel’ a chau’r A496 bresennol drwy Lanbedr fel ‘dewis olaf ar ôl i’r opsiynau eraill gael eu rhoi ar waith’.
Mae hyn wedi arwain at ddatblygu’r astudiaeth hon, sy’n ystyried yr opsiynau posibl ar gyfer mynd i’r afael â’r problemau trafnidiaeth y gwyddys amdanynt yn Llanbedr.
Bydd yr astudiaeth yn dangos bod Cyngor Gwynedd wedi rhoi ystyriaeth ddyledus i’r holl opsiynau posibl ar gyfer gwella’r sefyllfa drafnidiaeth yn Llanbedr, gan ein cefnogi i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwelliannau trafnidiaeth yn y dyfodol.
Gan ystyried sylwadau Panel Adolygu Ffyrdd Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol fel rhan o broses WelTAG Cam 1, rydym wedi ailedrych ar ddyluniad y cynllun ffordd osgoi blaenorol ar gyfer Llanbedr. I sicrhau mai aliniad y ffordd a gynigiwyd yn flaenorol oedd yr opsiwn mwyaf addas o hyd, cynhaliwyd ymarfer dilysu fel rhan o WelTAG Cam 1 a nododd, pe bai ffordd newydd yn cael ei hadeiladu, y dylai gael ei lleoli i’r gorllewin o Lanbedr, gan ddilyn llwybr y cynllun blaenorol yn fras.
Crynhoir nodweddion allweddol cynllun diwygiedig ffordd osgoi Llanbedr – y cyfeirir ato nawr fel y Ffordd Liniaru Cyflymder Isel – fel a ganlyn:
- Terfyn cyflymder o 40 mya a nodweddion dylunio cysylltiedig o ran y ffordd fawr.
- Cysylltiad diwygiedig ar ben gogleddol y ffordd er mwyn lleihau’r gwaith adeiladu sydd ei angen ar gyfer y ffordd newydd.
- Gwahardd cerbydau modur rhag gadael y pentref ar Bont Afon Artro, ac eithrio cerbydau gwasanaethau brys a gwasanaethau bysiau lleol.
- Gwahardd cerbydau modur rhag gyrru ar hyd Ffordd Mochras o dan y Ffordd Liniaru Cyflymder Isel, ac eithrio cerbydau gwasanaethau brys.
- Dim goleuadau stryd na seilwaith teithio llesol dynodedig ar ei hyd. Bydd defnyddwyr dulliau teithio llesol yn cael eu hannog i ddefnyddio’r A496 bresennol drwy Lanbedr, oherwydd y disgwyliad y bydd llai o draffig ar hyd y ffordd bresennol.
Mae llun o’r Ffordd Liniaru Cyflymder Isel arfaethedig ar gael yma.
Cwestiynau a ofynnir yn aml
Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai pob cynllun adeiladu ffordd newydd yn cael ei atal dros dro tra bod adolygiad yn cael ei gynnal o’i addasrwydd yn sgil Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth i Gymru a’r gofyniad i gyflawni Allyriadau Carbon Sero Net erbyn 2050. Yn sgil hynny, penodwyd panel o arbenigwyr annibynnol, a chyhoeddwyd canlyniad yr adolygiad ym mis Chwefror 2023. Cyhoeddwyd cyfanswm o 51 o argymhellion gan y Panel Adolygu Ffyrdd, a chafodd arian ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau ei dynnu’n ôl am resymau amgylcheddol, neu argymhellwyd newidiadau sylweddol.
Am fod angen argymhelliad hwylus, oherwydd statws cynllunio’r cynllun blaenorol ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr, rhoddodd y Panel Adolygu Ffyrdd ymateb manwl i Ffordd Fynediad a Ffordd Osgoi Llanbedr ym mis Tachwedd 2021, a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar ddau gwestiwn penodol i’r cynllun:
- A roddwyd digon o ystyriaeth i atebion nad ydynt yn rhai trafnidiaeth ac atebion ar wahân i'r rhai sy'n cynyddu capasiti ceir preifat ar y rhwydwaith ffyrdd?
- A roddwyd digon o ystyriaeth i weld a fydd y cynnig ar gyfer ffordd yn arwain at fwy o allyriadau CO2 ar y rhwydwaith ffyrdd, neu'n achosi rhwystr sylweddol i gyflawni ein targedau datgarboneiddio?
Daeth yr adolygiad i’r casgliad nad oedd y cynllun yn gyson â pholisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ac argymhellwyd na ddylai’r cynllun fynd rhagddo.
Y prif bryderon a gododd y Panel Adolygu Ffyrdd am y cynllun oedd:
- Ymddengys fod elfennau sylweddol o’r gwaith dadansoddi wedi dechrau gyda’r rhagdybiaeth mai’r unig ateb yw ffordd newydd a mwy o gapasiti o ran traffig.
- Ni roddwyd digon o ystyriaeth i atebion nad ydynt yn rhai trafnidiaeth o’r cychwyn cyntaf. Yn benodol, ni roddwyd digon o ystyriaeth i p’un a yw graddfa’r gwaith datblygu a ragwelir ym Maes Awyr Llanbedr yn briodol yn y lleoliad hwn.
- Ni roddwyd digon o ystyriaeth i'r posibilrwydd y gallai anghenion mynediad safle Maes Awyr Llanbedr gael eu diwallu gan ffordd fynediad lai o faint, neu opsiwn nad yw'n ymwneud â ffordd.
- Nid oedd ymchwiliad trylwyr wedi’i gynnal o opsiynau a allai leihau effaith negyddol traffig yn Llanbedr (a phentrefi eraill ar hyd yr A496) heb gynyddu capasiti ffyrdd, drwy newid dulliau teithio o geir i drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.
- Ystyriwyd bod yr asesiad o effaith y cynllun ar allyriadau CO2 yn arwynebol ac nad oedd yn gredadwy. Ystyried ei bod yn fwy tebygol na pheidio y byddai’r cynllun blaenorol yn cynyddu allyriadau CO2 oherwydd traffig ychwanegol, cynnydd mewn cyflymder a charbon ymgorfforedig, gan ei gwneud yn anos i Gymru gyflawni targedau datgarboneiddio.
Er i’r Panel Adolygu Ffyrdd argymell na ddylai’r cynllun blaenorol fynd rhagddo am y rhesymau hyn, awgrymwyd y byddai’n fuddiol i Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru gael trafodaeth bellach ynghylch pecyn amgen o fesurau i leihau effaith negyddol traffig yn Llanbedr. Mae hyn wedi arwain at astudiaeth WelTAG Gwelliannau Trafnidiaeth Llanbedr, sydd wedi nodi nifer o opsiynau posibl a allai gael eu cyflwyno i fynd i’r afael â’r problemau trafnidiaeth y gwyddys amdanynt yn Llanbedr, gan fod yn fwy cyson â pholisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae cynllun Gwelliannau Trafnidiaeth Llanbedr yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddio WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru). Mae arweiniad WelTAG 2024 yn nodi proses a fframwaith eang ar gyfer nodi, arfarnu a gwerthuso atebion i fynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Mae’n helpu i nodi’r cynllun mwyaf buddiol ac yn sicrhau bod modd cymharu cynlluniau ar sail tebyg am debyg. Mae angen dilyn proses WelTAG ar gyfer pob prosiect trafnidiaeth yng Nghymru sydd angen cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae proses WelTAG yn cynnwys chwe cham y bwriedir iddynt gwmpasu cylch oes cynllun trafnidiaeth arfaethedig, o’r cysyniad i adolygiad ôl-weithredu. Pum cam WelTAG yw:
- Cam 0 – Achos dros Newid.
- Cam Un – Achos Busnes Amlinellol Strategol.
- Cam Dau – Achos Busnes Amlinellol.
- Cam Tri – Achos Busnes Llawn.
- Cam Pedwar – Cyflawni.
- Cam Pump – Monitro a Gwerthuso.
Ar hyn o bryd, mae’r astudiaeth ar Gam Dau WelTAG (Achos Busnes Amlinellol).
Fel y gwyddoch o bosibl, cafwyd cymeradwyaeth gynllunio ar gyfer ffordd osgoi newydd i’r gorllewin o Lanbedr ar 4 Mawrth 2020. Fel rhan o’r gymeradwyaeth hon, roedd Amod 1 yn nodi:
Bydd y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn dechrau cyn pen pum mlynedd i ddyddiad y penderfyniad hwn.
Felly, roedd angen i gynllun ffordd osgoi Llanbedr ddechrau erbyn 4 Mawrth 2025, neu byddai’r gymeradwyaeth gynllunio yn mynd yn ddi-rym. Ar y sail hon, aeth Cyngor Gwynedd ati i fodloni’r amodau cyn-gychwyn sy’n gysylltiedig â’r gymeradwyaeth gynllunio ac, yn dilyn hynny, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd yn y lleoliad hwn ym mis Chwefror 2025.
Dylid nodi nad yw’r gweithgareddau yr ymgymerwyd â nhw i ddechrau ar gymeradwyaeth gynllunio NP5/62/399 yn gysylltiedig â chynnal astudiaeth WelTAG Gwelliannau Trafnidiaeth Llanbedr. Ymgymerwyd â’r gweithgareddau er mwyn sicrhau, os yw astudiaeth WelTAG yn argymell y dylid adeiladu ffordd newydd yn y lleoliad hwn a bod arian yn cael ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru neu ffynonellau eraill i adeiladu’r ffordd, na fyddai angen ailddechrau’r broses gynllunio. Pe bai angen hyn, byddai angen i swm sylweddol o arian cyhoeddus gael ei fuddsoddi mewn proses gynllunio a gwblhawyd eisoes yn 2020, ochr yn ochr ag effeithiau posibl ar raglenni adeiladu.
Er bod cymeradwyaeth gynllunio wedi’i sicrhau ar gyfer ffordd newydd i’r gorllewin o Lanbedr (NP5/62/399), yn dilyn argymhelliad y Panel Adolygu Ffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu arian pellach ar gyfer adeiladu’r cynllun yn ôl. Ar y sail hon, ni all cynllun blaenorol ffordd osgoi Llanbedr fynd rhagddo, gan fod angen i Gyngor Gwynedd gael cyllid gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw gorff cyllido arall i adeiladu’r cynllun.
Gan ystyried hyn, er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfle posibl i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i adeiladu gwelliannau seilwaith trafnidiaeth yn Llanbedr – boed hynny’n ffordd newydd, gwelliannau eraill, neu gyfuniad o ffordd newydd a gwelliannau eraill – mae Cyngor Gwynedd yn ymgymryd ag astudiaeth WelTAG Gwelliannau Trafnidiaeth Llanbedr.
Er mwyn dangos i Lywodraeth Cymru ein bod wedi ystyried argymhellion y Panel Adolygu Ffyrdd, rydym wedi nodi opsiynau posibl a allai fynd i’r afael â’r problemau trafnidiaeth y gwyddys amdanynt yn Llanbedr.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol i argymhelliad y Panel Adolygu Ffyrdd mai dim ond fel ‘dewis olaf ar ôl i’r opsiynau eraill gael eu rhoi ar waith’ y dylai ffordd newydd yn Llanbedr gael ei hystyried. Drwy ystyried opsiynau posibl lle na chaiff ffordd newydd ei hadeiladu i’r gorllewin o Lanbedr, gall Cyngor Gwynedd ddangos ei fod wedi ystyried yr holl opsiynau posibl ar gyfer gwella’r sefyllfa drafnidiaeth bresennol yn Llanbedr ac ar hyd yr A496.
Er enghraifft, gan ystyried adborth gan randdeiliaid, efallai y bydd astudiaeth WelTAG Cam 2 yn nodi bod opsiwn lle nad oes angen i Ffordd Liniaru Cyflymder Isel gael ei hadeiladu yr un mor llwyddiannus ag opsiynau eraill lle caiff y ffordd ei hadeiladu wrth fynd i’r afael â’r problemau trafnidiaeth y gwyddys amdanynt yn lleol. Os felly, byddai’r opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu ac ni fyddai cynlluniau ar gyfer Ffordd Liniaru Cyflymder Isel yn cael eu datblygu ymhellach.
Fel arall, efallai y canfyddir mai opsiwn sy’n cynnwys y Ffordd Liniaru Cyflymder Isel yw’r opsiwn mwyaf llwyddiannus ar gyfer mynd i’r afael â’r problemau y gwyddys amdanynt ac mai’r opsiwn hwn sy’n cynnig y gwerth gorau am arian. Byddai’r opsiwn hwnnw wedyn yn cael ei ddatblygu, ochr yn ochr â’r Ffordd Liniaru Cyflymder Isel ddiwygiedig, er mwyn gwneud cynnydd pellach. Fodd bynnag, byddwn wedi dangos ein bod wedi ystyried yr holl opsiynau posibl ar gyfer gwella’r sefyllfa drafnidiaeth yn Llanbedr, gan fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a godwyd gan y Panel Adolygu Ffyrdd yn ei argymhellion.
Mae WelTAG Cam 0 - Achos dros Newid, sydd wedi’i lunio fel rhan o’r prosiect hwn, wedi ystyried y problemau trafnidiaeth allweddol yn Llanbedr ac wedi pennu amcanion ar gyfer y prosiect. Cafodd y problemau trafnidiaeth a’r amcanion eu nodi ar y cyd â’r gymuned leol, ac fe’u llywiwyd gan weithdai a gynhaliwyd yn lleol yn ystod 2024.
Crynhoir y problemau trafnidiaeth allweddol y nodwyd eu bod yn berthnasol i’r prosiect hwn fel a ganlyn:
- Diogelwch – mae cyfradd uchel o wrthdrawiadau ar hyd yr A496 drwy Lanbedr, o gymharu â ffyrdd gwledig eraill o’r math hwn. Hefyd, mae yna ganfyddiad negyddol sylweddol o ddiogelwch o ran pobl sy’n cerdded ac yn beicio yn y pentref.
- Dibyniaeth ar y Car Preifat – mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyrru o le i le yn yr ardal leol, sy’n rhannol o ganlyniad i rwydwaith gwael o lwybrau teithio llesol ac amseroedd gweithredu cyfyngedig ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.
- Mynediad at Wasanaethau a Chyflogaeth – oherwydd argaeledd cyfyngedig dewisiadau trafnidiaeth ar wahân i gar, nid oes gan bobl leol nad ydynt yn gyrru fynediad effeithiol at wasanaethau allweddol a chyflogaeth yn yr ardal.
- Gwahanu Cymunedau o Boptu’r Ffordd ac Ymdeimlad o Le – mae’r A496 yn gwahanu Llanbedr ac yn golygu bod canol y pentref yn llai deniadol nag y gallai fod.
- Yr Economi Ymwelwyr – mae traffig sy’n gysylltiedig â’r economi ymwelwyr yn achosi tagfeydd lleol sylweddol yn ystod cyfnodau brig a phroblemau o ran diogelwch.
- Gwydnwch – mae’r A496 yn croesi Pont Afon Artro yn Llanbedr, sy’n bont restredig Gradd II ac yn strwythur hanesyddol cul. Pe bai rhywbeth yn digwydd yn y lleoliad hwn, byddai’r effaith ar y rhwydwaith ffyrdd yn ddifrifol, yn rhannol o ganlyniad i’r ffaith nad oes llwybr amgen addas ar gyfer traffig.
Er mwyn mynd i’r afael â’r problemau trafnidiaeth hyn, mae’r amcanion canlynol wedi’u pennu ar gyfer yr astudiaeth fel rhan o broses WelTAG:
- Lleihau’r angen i deithio ar gyfer gwasanaethau allweddol a chyflogaeth.
- Gwella diogelwch ar gyfer pob dull teithio.
- Blaenoriaethu siwrneiau ar droed ac ar feic ym mhentref Llanbedr.
- Gwella mynediad drwy ddulliau cynaliadwy i Lanbedr ac ardaloedd i’r gorllewin o’r pentref ac oddi yno.
- Gwella’r amgylchedd adeiledig lleol er mwyn sicrhau gwell ymdeimlad o le a chyfrannu at fywiogrwydd y pentref.
- Lleihau effaith yr economi ymwelwyr ar y rhwydwaith ffyrdd.
- Gwella gwydnwch y rhwydwaith trafnidiaeth yn Llanbedr ac yn yr ardal gyfagos.
- Lleihau effaith newid hinsawdd ar y gymuned leol.
Mae Cyngor Gwynedd yn ymwybodol o’r cynigion datblygu posibl ym Maes Awyr Llanbedr a bydd yn ystyried effaith bosibl y datblygiad ar yr opsiynau a gynigir:
Cydnabyddir hefyd y byddai adeiladu Ffordd Liniaru Cyflymder Isel yn helpu wrth alluogi safle Maes Awyr Llanbedr i gael ei ddatblygu. Er y gallai hyn gael effeithiau economaidd posibl ar yr economi leol a rhanbarthol, nid yw hyn yn un o brif ystyriaethau astudiaeth WelTAG Gwelliannau Trafnidiaeth Llanbedr. Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar fynd i’r afael â’r problemau trafnidiaeth sylweddol y gwyddys amdanynt yn Llanbedr ac ar hyd yr A496 yn arbennig.
Rydym yn ymgymryd â’r gweithgarwch ymgysylltu hwn i gael barn y cyhoedd am yr opsiynau posibl a gynigir yn Llanbedr a’r ardal leol. Unwaith y bydd y sylwadau wedi dod i law fel rhan o’r broses ymgysylltu hwn, byddwn yn diweddaru’r opsiynau posibl ac yn cynnwys yr adborth hwn yn ein hadroddiad WelTAG Cam 2 er mwyn nodi cynllun a ffefrir i’w ddatblygu. Bydd astudiaeth WelTAG Cam 2 yn cael ei chwblhau erbyn haf 2025.
Ar ddiwedd WelTAG Cam 2, bydd cynllun a ffefrir yn cael ei nodi a bydd y camau nesaf yn cael eu nodi’n fanylach i’w hystyried gan Gyngor Gwynedd, ochr yn ochr â phartneriaid allweddol yn Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae cynnydd pellach y prosiect ar ôl i WelTAG Gam 2 ddod i ben yn amodol ar argaeledd cyllid a chytundeb gan Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru ar yr argymhellion.
Gan dybio y bydd cyllid ar gael i Gyngor Gwynedd fynd â’r cynllun a ffefrir yn ei flaen, bydd angen cwblhau WelTAG Cam 3 (Achos Busnes Llawn), i’n galluogi i wneud cais am gyllid adeiladu.
Nid yw’n bosibl rhoi syniad pellach o amserlenni y tu hwnt i hyn ar hyn o bryd, gan nad ydym wedi nodi’r cynllun a ffefrir.
Os ydych chi’n berchen ar dir y mae unrhyw rai o’r opsiynau posibl a gynigir yn effeithio arno, mae croeso i chi gysylltu â thîm y prosiect.
Cysylltu â Thîm y Prosiect
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau heb eu ateb, neu os hoffech chi roi adborth nad yw’n cael ei gasglu gan yr arolwg, cysylltwch â thîm y prosiect drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:
- E-bost: LlanbedrWelTAG@wsp.com.
- Post: At sylw: Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau (Llanbedr), Adran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, LL55 1SH.