Adolygu Dalgylch Felinwnda
Yn eu cyfarfod ar 11 Chwefror 2025, bu i Gabinet Cyngor Gwynedd benderfynu fel a ganlyn:
“Ystyriwyd yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar adolygu dalgylch Ysgol Felinwnda, ynghyd â’r gwerthusiad o’r opsiynau a gyflwynir yn yr adroddiad. Penderfynwyd cymeradwyo’r opsiwn ffafriedig, sef: ‘Opsiwn 2: Trosglwyddo dalgylch Felinwnda yn ei gyfanrwydd i ddalgylch Ysgol Bontnewydd’”
Gweld yr adroddiad Cabinet a'r daflen benderfyniad yma
Mwy o wybodaeth:
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar ddyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda, gyda'r ymgynghorai perthnasol rhwng 24 Medi a 22 Hydref 2024.
Mae’r adroddiad ymgynghori bellach wedi ei chyhoeddi a bydd yn cael ei thrafod gan Cabinet Cyngor Gwynedd ar 11 Chwefror 2025.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar ddyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda, gyda'r ymgynghorai perthnasol rhwng 24 Medi a 22 Hydref 2024.
Dogfennau: