Cartref > Y Cyngor > Pleidleisio ac etholiadau > Arolygon Cymunedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013

Arolygon Cymunedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013

 Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cynnal arolygon cymunedol o dan adrannau 25 a 31 Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013. Eitem 16 - Arolygon Cymunedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol Democratiaeth Cymru 2013.pdf

 

Beth yw Cymuned?

At ddibenion yr arolygon hyn, uned llywodraeth leol islaw lefel  cyngor sir (y ‘prif gyngor’) yw ‘cymuned’. Mae ardaloedd cymunedol yn gorchuddio Cymru gyfan.  Mae ardal Gwynedd wedi ei rhannu’n  64 cymuned, gyda chyngor cymuned, tref neu ddinas etholedig yn gwasanaethu pob un.  Yn y cyd-destun hwn yr un yw statws cyfreithiol y cynghorau beth bynnag y’i gelwir, h.y. maent i gyd yn cael eu hystyried yn ‘gynghorau cymuned’. Gall cymunedau yn eu tro gael eu rhannu’n wardiau at ddibenion etholiadol ond nid yw hyn yn anorfod, ac nid yw pob cymuned yng Ngwynedd wedi eu rhannu’n wardiau. 

 

Beth yw Arolwg Cymunedol? 

Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Gwynedd, o dan Ddeddf 2013 fel ‘prif gyngor’, i fonitro’r cymunedau o fewn y sir a threfniadau etholiadol y cymunedau hynny, a chynnal arolygon pan fo’r Ddeddf yn mynnu ei fod yn gwneud hynny neu pan fydd yn ystyried bod hynny’n briodol.  Wrth gyflawni ei ddyletswyddau ac wrth gynnal unrhyw adolygiad, rhaid i’r Cyngor geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. 

Mae dau fath o arolwg cymunedol y gall y Cyngor eu cynnal:

Arolwg o Ffiniau Cymunedol  (o dan adran 25 o’r Ddeddf): Arolwg o ffiniau un neu fwy o gymunedau i sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu hunaniaeth leol a hwyluso llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Gall argymell newidiadau i ffiniau cymunedau, sy’n  gynnwys newidiadau i ffin cymuned bresennol, ond hefyd diddymu cymuned bresennol a chreu cymuned newydd. 


Arolwg o'r Trefniadau Etholiadol (o dan adran 31 o’r Ddeddf): Mae hyn yn golygu edrych ar y trefniadau ar gyfer cynrychiolaeth ar y cyngor cymuned o fewn cymuned. Wrth gynnal Arolwg o’r fath gall y Cyngor edrych ar:
    • nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y gymuned;
  • rhannu’n wardiau (os yw’n briodol) at ddibenion ethol cynghorwyr;
  • nifer a ffiniau unrhyw wardiau;
  • nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward;
  • enw unrhyw ward. 

 

Arolwg o Drefniadau Etholiadol (adran 31) 

Bwriedir cynnal arolwg o drefniadau etholiadol yr holl gymunedau o fewn Gwynedd gan edrych ar y materion a nodir uchod. Credir fod angen edrych yn arbennig ar sefyllfa wardiau o fewn cymunedau er mwyn ystyried, fel sy’n rhaid o dan y Ddeddf,  os yw nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr ar gyfer y gymuned yn golygu bod un etholiad o gynghorwyr cymuned yn anymarferol neu’n anghyfleus, a ph’un a yw’n ddymunol i unrhyw ardal o’r gymuned gael ei chynrychioli ar wahân ar y cyngor cymuned. Hynny yw, ystyried a yw’n fuddiol i gymuned gael ei rhannu’n wardiau.

 

Arolwg Ffiniau (adran 25) 

Fel rhan o’r dyletswydd i fonitro ein cymunedau gofynnwyd i gynghorau cymuned yn ddiweddar os oedd unrhyw faterion yr hoffent eu dwyn i’n sylw mewn perthynas â’r ffiniau presennol. Daethpwyd â materion penodol i’n sylw, a’r bwriad yw cynnal adolygiadau o ffiniau’r cymunedau sy’n berthnasol i’r materion hyn, sef :

  • Llanllechid  -  ar hyn o bryd mae ffin y gymuned yn rhannu stad tai Llwyn Bedw gan olygu bod rhai tai  yng nghymuned Bethesda

  • Y Felinheli – ar hyn o bryd mae nifer o eiddo sydd ar hyd Ffordd Heulyn ac o fewn pentref y Felinheli yng nghymuned Pentir yn hytrach na chymuned Y Felinheli

 

  • Llanelltyd a Ganllwyd  - y byddai’n gwneud synnwyr i uno’r ddau gyngor gan greu un cyngor yn Nyffryn y Mawddach

 

  • Llanegryn  - mae unigolyn preifat wedi cyflwyno cais i addasu ffin cymuned Llanegryn fel bod holl dir Fferm Rhydygarnedd yn dod o fewn y gymuned honno gan fod rhan wedi ei symud i gymuned Tywyn yn 1987

 

Wrth gynnal yr arolygon hyn, ystyrir pob ardal yn ôl ei rhinweddau ei hun, gan roi sylw i'w phoblogaeth, daearyddiaeth a phatrwm y cymunedau.

Mae’r broses statudol y mae’n rhaid i brif gyngor ei dilyn wrth gynnal arolwg cymunedol yr un fath, i raddau helaeth, ar gyfer arolygon ffiniau adran 25 ac arolygon etholiadol adran 31. Dim ond o ran y canlyniad yr arolwg, a’i weithredu, y mae’n wahanol. Gan y Cyngor mae’r grym i wneud gorchymyn i weithredu newidiadau i drefniadau etholiadol cymunedau ond bydd yn cyflwyno argymhellion i’r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, fel yr awdurdod gweithredu,  i wneud unrhyw  newid i ffiniau cymunedau. 

Mae’r Ddeddf yn gosod pedwar cam hanfodol i’r broses:

  • Cyhoeddusrwydd cychwynnol
  • Ymchwiliad ac ymgynghoriad cychwynnol - diben y cam hwn yw galluogi prif gyngor i gasglu’r wybodaeth y bydd arno ei hangen wrth ystyried a pharatoi unrhyw gynigion ar gyfer newid)
  • Cynigion drafft (ac ymgynghoriad ar y cynigion hynny); ac
  • Argymhellion terfynol

 

Wrth ymgynghori byddwn yn cynnwys yr ymgyngoreion gorfodol a nodir yn y ddeddf ond hefyd unrhyw fudd-ddeiliad perthnasol, gan gynnwys: 

  • Etholwyr llywodraeth leol
  • Cynghorau Cymuned
  • Cynghorwyr Sir
  • Aelodau o’r Senedd
  • Aelodau Seneddol
  • Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

 

Gosodir yr amserlen isod:

arolwg cymunedol
 Cam Cam GweithreduDyddiad 
 Cymeradwyo cynnal Arolwg   Y Cyngor yn cymeradwyo egwyddor yr Arolwg Cymunedol a'i Gylch Gorchwyl.  Mawrth 2024
Cyhoeddusrwydd Cychwynnol  ac Ymgynghoriad 1 Cynnal cyhoeddusrwydd cychwynnol a chyhoeddi cylch gwaith.

 

Dechrau Cyfnod ymgynghori o chwe wythnos ar y Cylch Gwaith yn dechrau gyda chyhoeddi Cylch Gorchwyl yr Adolygiad.

 11 Tachwedd 2024 - 20 Rhagfyr 2024
 Ystyried y sylwadau a pharatoi Cynigion Drafft     Ionawr/Chwefror 2025
Cymeradwyo Cynigion Drafft   Cynigion Drafft  i’w hystyried gan y Cyngor a’u cymeradwyo ar gyfer ymgynghori pellach   Cyngor Llawn Mawrth 2025
 Ymgynghoriad 2    Cyhoeddi’r adroddiad yn  unol â gofynion y Ddeddf a gwahodd sylwadau gan yr ymyngoreion gorfodol a budd-ddeiliad perthnasol eraill (6 wythnos)  Mawrth/Ebrill  2025

Ystyried y sylwadau a pharatoi adroddiad terfynol i’r Cyngor Llawn

 Cyngor i benderfynu ar yr argymhellion terfynol   Cyngor Llawn Gorffennaf 2025
 Cyhoeddi argymhellion terfynol fel y cytunwyd   Cyhoeddi’r Adroddiad terfynol

(1) Gwneud y Gorchymyn ar gyfer yr Arolwg adran 31 (6 wythnos ar ôl cyhoeddi’r Adroddiad Terfynol)

(2) Cyflwyno argymhellion Arolwg adran 25 i’r Comisiwn 

 Gorffennaf/Awst   2025
 Gorchmynion yn dod i rym   Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf  Mai 2027

 

Gellir cael gwybodaeth am y cymunedau yn cynnwys wardiau, nifer cynghorwyr ac etholwyr yma: 

 

Mae’r dogfennau hefyd ar gael i’w harchwilio yn y Swyddfa Etholiadol, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH. Gallwch gysylltu â ni drwy’r dulliau isod i drefnu i’w gweld neu os oes gennych unrhyw ymholiad arall.